A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Archwilydd Gweithredwr Trafnidiaeth Ffyrdd / Swyddle
Swydd:
Archwilydd Gweithredwr Trafnidiaeth Ffyrdd
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
Hyd at £43,092
Cyfeirnod:
REC002913
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
14-12-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Arwain y gwaith o archwilio cyflenwyr allanol. Sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau cyfreithiol a safonau TrC, a chofnodi’r wybodaeth hon yn gywir. Datblygu a chynnal proses ar gyfer adolygu cydymffurfiad gweithredwyr o bryd i’w gilydd, yn ogystal â chwblhau adolygiadau/archwiliadau ad hoc wyneb yn wyneb ac o bell.

  • Arwain y gwaith o ddatblygu rhaglen archwilio cyflenwyr strwythuredig, gan gydweithio â rhanddeiliaid mewnol i ddylunio amserlen arfaethedig o asesiadau ar draws y gronfa gweithredwyr.
  • Cyflawni a chynnal y broses archwilio cyflenwyr yn barhaus, gan gynnal archwiliadau am reswm, wedi’u trefnu, seiliedig ar risg, ac ad hoc i fonitro cydymffurfiad ac ansawdd y gwasanaeth.
  • Cynllunio a chynnal ymweliadau safle â Gweithredwyr Bysiau yn lle Trenau a benodir gan TrC i asesu cydymffurfiad â Chytundebau Lefel Gwasanaeth allweddol a chefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gwsmeriaid.
  • Ymgysylltu’n uniongyrchol â gweithredwyr a rhanddeiliaid yn y maes, gan gwblhau archwiliadau wyneb yn wyneb, o bell, neu ar y safle, gan roi adborth clir a chefnogi’r gwaith o roi camau cywiro ar waith. Mae hyn yn cynnwys teithio ar draws rhwydwaith TrC a gweithio ar benwythnosau o bryd i’w gilydd.
  • Cydweithio â gweithredwyr, gan sicrhau cyd-ddealltwriaeth o ganlyniadau archwilio a’r camau gweithredu gofynnol, a mynd ati’n rhagweithiol i’w cefnogi i wreiddio arferion gorau a chodi safonau gweithredol.
  • Gweithredu fel arbenigwr pwnc mewnol ar gyfer yr holl faterion sy’n ymwneud â chydymffurfio â thrafnidiaeth ar y ffyrdd, gan ddarparu cyngor, gwybodaeth ac arweiniad i staff ar draws TrC.
  • Cydweithio â Thîm Diogelwch TrC i sicrhau bod gweithgareddau archwilio yn cyd-fynd â pholisïau, gweithdrefnau a disgwyliadau diogelwch—gan gefnogi dull gweithredu ‘Un tîm TrC’ ar gyfer sicrwydd gweithredol a gwelliant parhaus.
  • Monitro newidiadau mewn deddfwriaeth a rheoliadau yn y diwydiant bysiau, gan sicrhau bod y broses archwilio’n gyfredol, a rhoi gwybod i dimau perthnasol ar draws TrC am unrhyw oblygiadau.
  • Dadansoddi canfyddiadau a thueddiadau archwilio, cynhyrchu adroddiadau a dangosfyrddau rheolaidd sy’n tynnu sylw at feysydd risg, materion sy’n codi dro ar ôl tro, a chyfleoedd i wella er mwyn llywio penderfyniadau ar draws y swyddogaeth trafnidiaeth ffyrdd.
  • Cefnogi’r broses o rannu gwybodaeth yn fewnol, cyfrannu at ddatblygu a darparu sesiynau hyfforddi neu friffio i gyfleu disgwyliadau cydymffurfio, gwybodaeth archwilio, ac arferion gorau.
  • Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu ac optimeiddio systemau ac offer digidol a ddefnyddir i reoli prosesau archwilio, cofnodion ac adroddiadau, gan sicrhau eu bod yn addas i’r diben a’i bod yn hawdd eu defnyddio.

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Gweithio gyda’r tîm Risg a Sicrwydd i sicrhau bod canfyddiadau archwiliadau’n cael eu hadlewyrchu yng nghofrestri risg sefydliadol lle bo hynny’n briodol, a bod camau lliniaru’n cael eu holrhain a’u dilyn.
  • Profiad o weithio mewn maes sy’n ymwneud ag Archwilio.
  • Profiad o weithio yn y diwydiant trafnidiaeth – y sector bysiau’n ddelfrydol.
  • Dealltwriaeth fanwl o reoliadau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle a hefyd yn y maes gweithrediadau.
  • Dadansoddi ac Arloesi – gallu defnyddio’r wybodaeth sydd ar gael a dod o hyd i ddata/echdynnu data i ddiffinio, argymell a gweithredu atebion ymarferol i faterion archwilio a allai godi.
  • Gallu rheoli’r rhyngweithio a’r berthynas rhwng rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar faterion cydymffurfio.
  • Gallu cynllunio, trefnu, gweithredu a chyflawni archwiliadau gyda’n cyflenwyr.
  • Dealltwriaeth o Weithrediadau Trafnidiaeth Ffyrdd/Rheoli Fflyd.
  • Dealltwriaeth o Reoliadau Trafnidiaeth ar y Ffyrdd (oriau gyrwyr ac ati).
  • Profiad o gynnal Archwiliadau (Mewnol/Allanol).

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.