Swydd:
Cynorthwyydd Recriwtio ac Ymgysylltu Lefel Mynediad (Siaradwr Cymraeg)
Cyflog:
£26,000 y flwyddyn
Cyflog: £26,000 y flwyddyn
Lleoliad: Hybrid
Math o swydd: Parhaol, llawn-amser (37.5 awr yr wythnos)
Dyddiad dechrau: Cyn gynted â phosibl
Angerddol am ymchwil a'r cyfryngau? Siaradwr Cymraeg rhugl?
Ydych? Os felly, gallai ein rôl Recriwtio ac Ymgysylltu i Siaradwr Cymraeg fod yn berffaith i chi.
Yma yn TRP Research rydyn ni’n creu ac yn rhedeg prosiectau ymchwil sydd wedi'u cynllunio i fesur y ffordd y mae pobl yn defnyddio’r cyfryngau, eu hagweddau tuag atynt a’u hymddygiad. Mae defnyddio'r cyfryngau yn cynnwys teledu, ffrydio a radio, yn ogystal â'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'r data a gesglir yn cael eu defnyddio gennym i helpu ein cleientiaid, gan gynnwys darlledwyr a chrewyr sioeau teledu, i wneud penderfyniadau strategol a thactegol sy'n seiliedig ar dystiolaeth am y cyfryngau maen nhw'n eu cyflwyno i wylwyr.
Rydyn ni’n rhedeg sawl panel defnyddwyr gan gynnwys trpsurveys.com, surveypraeg.com, panelcyfryngau.cymru, a mediaopinionsireland.ie.
Fel Cynorthwyydd Ymchwil Recriwtio ac Ymgysylltu, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm bach o gydweithwyr i recriwtio paneli sy’n cynrychioli’r ddemograffeg, a’u cadw.
Prif Gyfrifoldebau
- Gweithio gyda'r tîm i weithredu strategaethau recriwtio – e.e. gweithio gyda dylanwadwyr ar-lein, hysbysebu, a meithrin perthnasoedd ag elusennau a grwpiau
- Dylunio cyfryngau creadigol i'w defnyddio ar gyfer recriwtio, ymgysylltu a chyfathrebu ag aelodau ein paneli
- Dadansoddi data o ymatebion i greu syniadau a rhedeg ymgyrchoedd i ymgysylltu ag aelodau’r paneli a recriwtio aelodau newydd
- Paratoi deunyddiau cyfathrebu ar gyfer aelodau’r paneli, gan gynnwys ymateb i ymholiadau i fewnflwch arolygon a negeseuon sydyn ac uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol, yn Gymraeg ac yn Saesneg
Bydd ein Cynllun Hyfforddi a Datblygu mewnol yn eich cefnogi ar eich taith gyda TRP. Mae aelodau presennol y tîm wedi datblygu o swyddi tebyg i swyddi uwch o fewn TRP.
Sgiliau a Phrofiad
Hanfodol
- Yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg (yn ysgrifenedig ac ar lafar)
- Yn gyfathrebwr effeithiol sy'n gallu teilwra'r cyfathrebu i gynulleidfaoedd a demograffeg wahanol
- Â’r gallu i weld “y tu hwnt i'r rhifau” i adnabod tueddiadau a phatrymau, ac ychwanegu ystyr a mewnwelediad at y data
- Â gwybodaeth weithiol dda am becyn Microsoft Office, yn enwedig Word ac Excel
- Profiad o weithio o fewn fframweithiau cydymffurfio – e.e. GDPR, Cynlluniau Iaith Gymraeg
Dymunol
- Yn gyfarwydd â Photoshop, Canva neu debyg
- Yn gyfarwydd ag ymgysylltu trwy adnoddau cyfryngau (e.e. Meta, Spotify)
Nodweddion Personol
- Yn gymdeithasol, yn hawdd mynd ato/ati ac yn frwdfrydig
- Yn gyfathrebwr hyderus, clir ac yn ennyn diddordeb
- Yn greadigol ac yn wych am feddwl am syniadau y gallant eu trosi yn gynnwys effeithiol a difyr
- Yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol yn ogystal â gweithio fel aelod o dîm
- Yn gallu addasu ac yn gallu rheoli eu hamser yn dda, hyd yn oed pan fydd blaenoriaethau yn newid
- Yn gallu dilyn cyfarwyddiadau clir a gweithio ar eu menter eu hun pan fo angen
- Yn awyddus i ddatblygu
Pam TRP Research?
Bydd ein Cynllun Datblygu mewnol yn helpu i lunio datblygiad eich gyrfa o fewn TRP Research ac yn rhoi llwybr wedi'i deilwra i chi tuag at ddilyniant.
- 22.5 diwrnod o wyliau ynghyd â gwyliau banc y DU, yn cynyddu i uchafswm o 27.5 diwrnod gyda phob blwyddyn o wasanaeth
- Hyblygrwydd gyda gwyliau, gan gynnwys cario gwyliau rhwng blynyddoedd ariannol a phrynu hyd at 10 diwrnod ychwanegol
- 6 wythnos o wyliau â thâl i rieni ar 70% o’u cyflog wythnosol cyfartalog (yn ychwanegol at hawliau statudol)
- Cynllun Gofal Iechyd Preifat (ar ôl cwblhau cyfnod prawf o 3 mis), yn cynnwys yswiriant teithio, profion llygaid am ddim a lwfans arian-yn-ôl ar gyfer sbectol, lensys a thriniaeth ddeintyddol
- Cynlluniau Prynu Beiciau a Thechnoleg trwy aberthu cyflog mewn ffordd effeithlon o ran treth dros gyfnod o ddeuddeg mis
- Rhoi trwy’r Gyflogres ar gyfer rhoddion elusennol
Rydyn ni’n cydnabod efallai y byddai'n well gennych rannu'ch wythnos waith rhwng ein swyddfeydd a'ch cartref, ac yn annog pawb i drafod yr hyn fyddai orau ganddyn nhw gyda'u rheolwr.
Sut i Wneud Cais
I wneud cais, lawrlwythwch ffurflen gais oddi ar ein gwefan ac anfonwch eich ffurflen wedi'i chwblhau yn Saesneg trwy e-bost i careers@trpresearch.com.
Dyddiad cau: Mawrth 2026
Ochr yn ochr â'ch ffurflen gais, anfonwch lythyr yn Gymraeg hefyd yn esbonio pam mae'r rôl hon o ddiddordeb i chi. Dylai hyn gynnwys y wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn Saesneg yn adran gwybodaeth ategol eich ffurflen gais.
Mae TRP Research Ltd yn gyflogwr cyfle cyfartal.