Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Rydym ni’n chwilio am ddau berson creadigol a brwdfrydig i ymuno â thîm cynhyrchu Heno a Prynhawn Da yn Llanelli a Chaernarfon.
Mae’n gyfle cyffrous i greu cynnwys gwreiddiol a blaengar i ddwy o raglenni mwyaf poblogaidd S4C. Mae’r rôl yn gofyn am feddwl creadigol a threfnus ac yn cyplysu gwaith ar y rhaglenni byw yn ogystal ag eitemau wedi eu paratoi o flaen llaw ar gyfer y rhaglenni byw a’r llwyfannau digidol.
Bydd gan yr ymgeiswyr delfrydol brofiad o weithio yn y diwydiannau creadigol gyda gwybodaeth ac adnabyddiaeth dda o Gymru a’i phobl ynghyd â’r gallu i greu cynnwys apelgar.
Yn ddelfrydol rydym yn edrych am ddau gynhyrchydd profiadol (un yn Llanelli ac un yng Nghaernarfon) ond byddwn hefyd yn ystyried ymgeiswyr sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau cynhyrchydd. Cynigir hyfforddiant i’r ymgeiswyr llwyddiannus os ydynt yn llai profiadol. Mae agwedd bositif, brwdfrydig yn hanfodol ar gyfer y swydd hon yn ogystal â’r gallu i weithio’n dda gydag eraill. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn angenrheidiol.
Rydym yn gwmni sy’n awyddus i adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn credu mewn amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal. Rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Gydraddoldeb 2010.
Lleoliad:
Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli SA15 3YE
a
Tinopolis, Galeri Caernarfon, Doc Victoria, Caernarfon LL55 1SQ
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Dyddiad Cau: 23 Chwefror 2026
Oriau Gwaith:
Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos ond oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau:
Yn ychwanegol i’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl pro rata i 25 diwrnod o wyliau dros flwyddyn.
Pensiwn:
Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn, bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Dylid anfon ceisiadau mewn ffurf llythyr cais a CV erbyn 23 Chwefror 2026 at:
swyddi@tinopolis.com
neu
Swyddi,
Canolfan Tinopolis,
Stryd y Parc,
Llanelli,
SA15 3YE