A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Amgueddfeydd a 'r Celfyddydau / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Amgueddfeydd a 'r Celfyddydau
Lleoliad:
Caernarfon
Cyflog:
£44,075 - £46,142 y flwyddyn
Cyfeirnod:
25-30393
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Cyngor Gwynedd
Dyddiad Cau:
07-04-2026

Pwrpas y Swydd

Arwain y tîm(au) y mae’n gyfrifol amdano (ynt) i gyflawni yn effeithiol ac effeithlon yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd drwy greu a chynnal amgylchedd o barch ac ymddiriedaeth gan rymuso, arfogi ac ysbrydoli’r staff.

 

Cyfrifoldeb am Adnoddau

Staff y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau, cyllidebau’r gwasanaeth, casgliadau amgueddfaol, offer ac adeiladau’r gwasanaeth.

 

Prif Ddyletswyddau

 

Arwain

  • Bod yn atebol am y gwasanaeth a’r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael.
  • Arwain staff y gwasanaeth drwy annog a chymell i berchnogi egwyddorion Ffordd Gwynedd.
  • Sicrhau amgylchedd sy’n hyrwyddo llesiant staff.
  • Cynorthwyo’r tîm i sefydlu egwyddorion gweithredu gan ystyried deddfau perthnasol.
  • Bod yn ymwybodol o sut mae systemau’r tîm yn gweithio a hwyluso i’w herio pan fo angen.
  • Sicrhau fod y tîm yn cyfrannu at amcanion gwasanaethau neu sefydliadau eraill.
  • Hyrwyddo adnabod a gweithredu ar fygythiadau a chyfleoedd y dyfodol.
  • Sicrhau ymwybyddiaeth o’r hinsawdd gyfreithiol a gwleidyddol sy’n effeithio ar y gwasanaeth.
  • Sicrhau fod y tîm yn ystyried arferion da yn y maes gwasanaeth.
  • Arwain newid o fewn y gwasanaeth lle bo angen.
  • Ymdrin â phryderon gan Aelodau Etholedig ynglŷn â’r gwasanaeth.

 

Galluogi a Grymuso

  • Recriwtio a datblygu unigolion a thimau.
  • Arfogi’r tîm i sefydlu beth sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
  • Sicrhau fod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
  • Helpu’r tîm i adolygu a herio ei berfformiad.
  • Creu awyrgylch sy’n galluogi aelodau’r tîm i gyfrannu a gwneud penderfyniadau.
  • Sicrhau ymddiriedaeth ac atebolrwydd o fewn y tîm.

 

Cyflawni

  • Arfogi’r tîm i fesur perfformiad yn erbyn pwrpas.
  • Annog arloesi, mentro a dysgu o brofiad.
  • Cymell a mentora’r tîm i adnabod a dileu rhwystrau.
  • Datrys unrhyw rwystrau na all y tîm eu datrys.
  • Sicrhau fod cwynion yn derbyn sylw priodol.
  • Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol ac agored i syniadau newydd.

 

Hunan Adlewyrchu

Adlewyrchu ar gyflawniad personol yn erbyn yr hyn sydd yn y swydd-ddisgrifiad.

 

Meysydd Penodol y Swydd

  • Arwain y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau yn ei holl agweddau.
  • Arwain ac arolygu gwaith Storiel, Amgueddfa Lloyd George, Yr Uned Celfyddydau Cymunedol a Chelfyddydau Gweledol.
  • Casglu, dogfennu, diogelu a darparu mynediad at gasgliadau amgueddfaol.
  • Arwain ar lunio rhaglen arddangosfeydd a gweithgareddau diwylliannol.
  • Codi ymwybyddiaeth o waith Storiel, Amgueddfa Lloyd George a diwylliant Gwynedd.
  • Sicrhau arfer proffesiynol da a chynnal safonau Achredu Amgueddfeydd.
  • Rhoi cyngor i adrannau eraill ac asiantaethau allanol.
  • Darparu cyngor i ymchwilwyr ac ymateb i ymholiadau.
  • Gweithio gyda swyddogion dysgu ac ymgysylltu i ddarparu rhaglen addysg a chymunedol.
  • Arolygu rhaglen arddangosfeydd orielau’r gwasanaeth.
  • Paratoi ceisiadau grant a rheoli prosiectau cysylltiedig.
  • Cynnal perthynas gyda Chyfeillion Storiel a sefydliadau cefnogi.
  • Gweithio gyda'r Swyddog Celfyddydau Cymunedol i ddyrannu grantiau.
  • Cydlynu’r rhaglen waith sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Celfyddydau a’r Cynllun Diwylliant.
  • Hyrwyddo defnydd ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r celfyddydau a diwylliant.
  • Arwain ar brosiectau a fforymau cydweithredol yn y maes gwasanaeth.
  • Ymchwilio a pharatoi adroddiadau.
  • Cynrychioli’r gwasanaeth gyda sefydliadau ac asiantaethau allanol.
  • Cyfrannu at raglen farchnata a chyhoeddi’r sir.
  • Bod yn gyfrifol am benderfyniadau Iechyd a Diogelwch o fewn y gwasanaeth.
  • Sicrhau fod cynllun argyfwng y gwasanaeth yn gyfredol.
  • Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer safleoedd diwylliannol eraill.
  • Cyflawni tasgau rheolaethol eraill ar gais y Pennaeth neu’r Pennaeth Cynorthwyol.

 

Amgylchiadau Arbennig

  • Angen gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau yn achlysurol.
  • Trwydded yrru lawn a defnydd o gar.