A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Gweinyddwr Adnoddau Dynol / Swyddle
Swydd:
Gweinyddwr Adnoddau Dynol
Lleoliad:
Llanbedr Pont Steffan, Y Drenewydd
Cyflog:
£26,383 - £29,740
Cyfeirnod:
202601B
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Barcud
Dyddiad Cau:
17-02-2026

Mae’r holl feini prawf yn hanfodol oni nodir fel arall

Yn atebol i: Uwch-swyddog Adnoddau Dynol a’r Gyflogres

Yn gyfrifol am: Amherthnasol

 

Diben cyffredinol y swydd

Darparu cymorth gweinyddol gan sicrhau gwasanaeth o safon sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i swyddogaeth adnoddau dynol Grŵp Barcud. Mae’r Gweinyddwr Adnoddau Dynol yn rheoli’n rhagweithiol bob ymholiad ynghylch adnoddau dynol ar draws pob sianel gyfathrebu, ac mae’n gweithio gyda’r rheolwr lle bo raid pan gaiff ymholiadau eu huwchgyfeirio.

 

Cyfrifoldebau Allweddol – Gweinyddu Cyffredinol

Dyletswyddau o ran y post a’r dderbynfa

  • Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau dros y ffôn, drwy’r post, drwy ebost ac wyneb yn wyneb.
  • Agor, cofnodi a dosbarthu’r post.
  • Derbyn nwyddau sy’n cyrraedd a threfnu eu casglu neu eu dosbarthu.
  • Gwirio’r stoc yn rheolaidd (deunydd ysgrifennu, dillad, lluniaeth ac ati).

Dyletswyddau o ran gweinyddu adnoddau dynol a’r gyflogres

  • Cynorthwyo i ateb ymholiadau cyffredinol ynghylch polisïau, gweithdrefnau a thelerau cyflogaeth.
  • Monitro blychau derbyn ebost a llinellau ffôn adnoddau dynol.
  • Cofnodi absenoldeb a cheisiadau am wyliau ar iTrent.
  • Mynychu a gwasanaethu cyfarfodydd, gan gynnwys trefnu lleoliadau a lluniaeth.
  • Paratoi agenda, cofnodion a dosbarthu papurau cyfarfod.
  • Diweddaru a storio cofnodion cyfrinachol yn ddiogel.
  • Cynorthwyo gyda diweddariadau adnoddau dynol i’r Tîm Arwain a’r Bwrdd.
  • Gweinyddu prosesau megis DBS a geirdaon.
  • Cefnogi prosesau misol y gyflogres.
  • Lanlwytho anfonebau a chreu Rhifau Archebion Prynu ar Civica.
  • Rheoli cyfathrebu adnoddau dynol ac uwchgyfeirio pan fo angen.
  • Diweddaru taenlenni adolygiadau a chyfnodau prawf.
  • Paratoi adroddiadau salwch a chofnodi Dychwelyd i’r Gwaith.

 

Hyfforddiant

  • Cefnogi’r adran hyfforddiant (archebu lleoliadau, cysylltu â darparwyr).
  • Cydlynu a diweddaru cofnodion hyfforddiant.
  • Diweddaru cronfeydd data a llunio adroddiadau.
  • Cydlynu’r dysgu o gyfweliadau ymadael.

 

Recriwtio

  • Cydlynu’r broses recriwtio ar gyfer Grŵp Barcud.
  • Paratoi a chyhoeddi hysbysebion swyddi.
  • Trefnu paneli a chyfweliadau.
  • Monitro a phrosesu ceisiadau.
  • Anfon gwahoddiadau a rhoi gwybod i ymgeiswyr aflwyddiannus.
  • Paratoi pecynnau cyfweld a chasglu geirdaon.
  • Cefnogi’r broses groesawu.

 

Systemau rheoli adnoddau dynol a’r gyflogres

  • Cefnogi prosiectau adnoddau dynol a gwelliannau prosesau.
  • Rheoli a diweddaru systemau adnoddau dynol.
  • Cefnogi systemau hunanwasanaeth i weithwyr.
  • Ymateb i ymholiadau gweithwyr ynghylch systemau.

 

Iechyd galwedigaethol

  • Cydlynu gwiriadau iechyd galwedigaethol.
  • Trefnu apwyntiadau gyda’r nyrs iechyd galwedigaethol.
  • Rheoli tystysgrifau a gwaith papur.
  • Rhannu argymhellion perthnasol gyda’r Tîm Adnoddau Dynol.

 

Pobl sy’n gweithio ar eu pen eu hunain

  • Rheoli cofrestr gweithwyr sy’n gweithio ar eu pen eu hunain.
  • Cydlynu hyfforddiant ar y system berthnasol.
  • Monitro a diweddaru gwybodaeth yn rheolaidd.

 

Pobl

  • Hybu diwylliant o welliant parhaus.
  • Rhannu gwybodaeth am flaenoriaethau a nodau’r Grŵp.

 

Corfforaethol

  • Datblygu partneriaethau effeithiol.
  • Hybu mentrau iechyd a lles.
  • Darparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid.
  • Gweithio’n unol â pholisïau cydraddoldeb ac amrywiaeth.
  • Sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoleiddiol.
  • Cyflawni dyletswyddau rhesymol eraill.
     

 

Ni fwriedir i’r disgrifiad swydd hwn fod yn rhestr gyflawn, a gall gael ei adolygu a’i ddiwygio yn ôl gofynion newidiol y sefydliad, deddfwriaeth a rheoliadau.