A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
O £37,500
Cyfeirnod:
REC01424
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
20-10-2025

Disgrifiad Swydd

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd y Rheolwr CRM yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb hollbwysig o ddiffinio a gweithredu strategaeth CRM sy'n seiliedig ar ddata. Mae'r swydd hon yn hanfodol er mwyn optimeiddio taith gyfan y cwsmer, gyda'r nod yn y pen draw o feithrin teyrngarwch cwsmeriaid cryf, a'u cadw. Drwy fabwysiadu dull strategol, bydd y rheolwr yn cyfrannu'n uniongyrchol at gynyddu cyfraddau trosi a chynhyrchu refeniw cynaliadwy a hirdymor ar gyfer y busnes. Byddant yn cyflawni hyn drwy ddefnyddio data a gwybodaeth am gwsmeriaid i bersonoli cyfathrebiadau a chynyddu ymgysylltiad ar draws yr holl sianeli CRM.

  • Ar y cyd â'r Pennaeth Perfformiad a CRM, datblygu a gweithredu strategaeth CRM gynhwysfawr, gan ddiffinio teithiau cwsmeriaid, pwyntiau cyswllt ymgysylltu, a map clir i wella teyrngarwch cwsmeriaid, i wella’r broses o gadw cwsmeriaid, ac i wella gwerth oes ar draws holl wasanaethau TrC.
  • Dylunio, gweithredu ac optimeiddio llifau cyfathrebu awtomataidd a phersonol ar draws cylch bywyd y cwsmer (caffael, cynefino, ymgysylltu, cadw, ennill yn ôl) i sbarduno ymddygiad cwsmeriaid dymunol a chynyddu'r cyfraddau trosi.
  • Arwain y gwaith o gynllunio, gweithredu a dadansoddi ymgyrchoedd CRM aml-sianel (e.e. e-byst, hysbysiadau gwthio, SMS, negeseuon mewn apiau) i hyrwyddo gwasanaethau, rhoi gwybod i gwsmeriaid, a chyflawni amcanion marchnata a busnes penodol.
  • Defnyddio data cwsmeriaid i ddefnyddio a gwella ein prosesau segmentu cwsmeriaid, gan alluogi cyfathrebiadau a chynigion personol iawn sy'n taro tant â gwahanol grwpiau cwsmeriaid, gan wella cyfraddau ymgysylltu a chyfraddau trosi.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Gradd mewn maes perthnasol fel cyfathrebu, marchnata, newyddiaduraeth neu brofiad cyfwerth.
  • Profiad o Strategaeth CRM a’r gallu i’w rhoi ar waith
  • Dealltwriaeth glir o sut mae cynlluniau CRM yn cyfrannu at fetrigau busnes allweddol, gan gynnwys cyfraddau trosi, gwerth oes cwsmeriaid (CLTV), a thwf refeniw.
  • Profiad o Reoli Cylch Bywyd Cwsmeriaid

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.