Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Allwch chi gyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan ddarparu cyfieithiadau a gwasanaethau dwyieithog o ansawdd uchel?
Oes gennych brofiad o gyfieithu a phrawfddarllen cynnwys yn gywir, gan roi sylw manwl i fanylion a chanolbwyntio ar ansawdd?
Ydych chi’n barod i hyrwyddo gwasanaethau dwyieithog a chefnogi rhwymedigaethau’r Gymraeg ar draws sefydliad deinamig?
Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Mae Tîm Polisi’r Iaith Gymraeg yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ymrwymiad y sefydliad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o safon uchel. Mae’r tîm yn darparu gwasanaethau cyfieithu a phrawfddarllen proffesiynol yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan sicrhau bod cyfathrebiadau’n gywir, yn gyson ac yn hygyrch i gwsmeriaid a rhanddeiliaid. Maent yn cynghori cydweithwyr ar ofynion gwasanaethau dwyieithog, yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y sefydliad, ac yn cefnogi cydymffurfiaeth â deddfwriaeth y Gymraeg a Chynllun Iaith Gymraeg yr Asiantaeth. Gan weithio’n agos â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, mae’r tîm hefyd yn cydgysylltu ymatebion i ymholiadau a chwynion sy’n ymwneud â’r Gymraeg, ac yn arwain gweithgareddau sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn annog y defnydd o’r Gymraeg ymhlith staff a chwsmeriaid ledled Cymru.
Mae ymuno â’n hadran yn dod â llawer o fanteision, gan gynnwys:
Darllenwch fwy yn yr adran Buddion isod!
Dysgwch fwy am sut beth yw gweithio yn DVLA: https://www.civil-service-careers.gov.uk/departments/dvla-home/
Mae hwn yn gyfle gwych i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ymrwymiadau’r sefydliad i’r Gymraeg. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid ar draws ystod eang o feysydd busnes, gan ddarparu cyngor arbenigol, meithrin perthnasoedd cadarnhaol, a helpu i sicrhau bod cwsmeriaid yn derbyn gwasanaethau dwyieithog o safon uchel. Mae’r rôl yn cynnig llwyth gwaith amrywiol, gan gyfuno cyfrifoldebau cynghori, cydymffurfio, gwasanaeth i gwsmeriaid a hyrwyddo o fewn amgylchedd tîm cydweithredol a chefnogol.
Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, darllenwch y proffil rôl. Noder mai at ddibenion gwybodaeth yn unig y mae’r proffil rôl - er bod pob elfen yn berthnasol i’r rôl, efallai na fyddant i gyd yn cael eu hasesu yn ystod y broses recriwtio. Bydd yr hysbyseb swydd hon yn manylu’n union beth fydd yn cael ei asesu yn ystod y broses recriwtio.
I fod yn llwyddiannus yn y rôl hon bydd angen ichi feddu ar y profiad canlynol:
Noder bod yn rhaid cyflwyno eich CV a’ch Datganiad Personol yn gyfan gwbl yn y Gymraeg. Ni ellir ystyried unrhyw geisiadau na chânt eu cyflwyno’n gyfan gwbl yn y Gymraeg.
Mae rolau llawn amser yn cynnwys 37 awr yr wythnos.
Er ein bod yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy’n awyddus i weithio gyda ni ar sail rhan-amser, mae gofyniad busnes i’r ymgeisydd llwyddiannus allu gweithio o leiaf 35 awr yr wythnos.
Mae’r rôl hon yn addas ar gyfer gweithio hybrid, sef trefniant anghytundebol lle gellir darparu ar gyfer cyfuniad o weithio yn y gweithle a gweithio gartref yn amodol ar ofynion busnes.
Y disgwyliad ar hyn o bryd yw y bydd o leiaf 60% o’ch amser gwaith y mis yn cael ei dreulio naill ai yn eich gweithle dynodedig (un o’r lleoliadau a grybwyllir yn yr hysbyseb) neu, pan fo angen am resymau busnes, mewn swyddfa/lleoliad gwaith arall/rhanddeiliaid sy’n ymweld. Eich gweithle dynodedig fydd eich gweithle contractiol. Efallai y bydd achlysuron lle bydd gofyn ichi fynychu uwchlaw’r disgwyliad lleiaf.
Bydd angen teithio’n achlysurol i swyddfeydd eraill, a all olygu aros dros nos.
Gradd yn y Gymraeg/neu wedi astudio cwrs academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg/neu gymhwyster cydnabyddedig mewn sgiliau cyfieithu Cymraeg neu barodrwydd i weithio tuag at hynny YNGHYD â chefndir Cymraeg cryf, yn ffurfiol ac yn gymdeithasol.
Os oes gennych gwestiwn am weithio hybrid, oriau rhan-amser/rhannu swydd, gweithio hyblyg, teithio i’r gwaith, neu os oes angen addasiad rhesymol arnoch, cysylltwch â Deiliad y Swydd Wag yn ystod y broses recriwtio er mwyn osgoi siom bosibl yn ddiweddarach yn y broses os nad yw eich trefniadau gwaith yn gydnaws â gofynion y rôl.
Nodwch nad oes gennym Drwydded Tystysgrif Nawdd Gweithiwr Medrus Fisa a Mewnfudo’r DU (UKVI) ac nad ydym yn gallu noddi unrhyw unigolion ar gyfer Nawdd Gweithiwr Medrus. Rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawliau priodol i weithio yn y DU cyn gwneud cais.
Mae’n ofynnol ichi fod yn siaradwr Cymraeg rhugl er mwyn ymgymryd â’r rôl hon. Rhaid i’ch CV a’ch Datganiad Personol gael eu cyflwyno’n gyfan gwbl yn y Gymraeg.
Byddwn yn eich asesu yn erbyn yr ymddygiadau hyn yn ystod y broses ddethol:
Ochr yn ochr â’ch cyflog o £32,027, mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn cyfrannu £9,278 tuag at eich aelodaeth o gynllun Pensiwn Buddion Diffiniedig y Gwasanaeth Sifil.
Cael gwybod pa fuddion y mae Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn eu darparu:
https://www.civilservicepensionscheme.org.uk/memberhub/joining-the-pension-scheme/benefits-of-the-pension-scheme/
Mae bod yn rhan o’n Gwasanaeth Sifil gwych yn golygu y byddwch yn gallu manteisio ar ystod eang o fuddion gwych:
Dysgwch fwy am fanteision gweithio yn Yr Adran Drafnidiaeth a’i hasiantaethau: https://www.civil-service-careers.gov.uk/departments/dft-home/dft-pay-and-reward/
Dyddiad cau: 11:55pm, dydd Sul 29 Tachwedd 2026.