A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Golygydd Fideo / Swyddle
Swydd:
Golygydd Fideo
Lleoliad:
Llanelli
Cyflog:
Cystadleuol ac yn ddibynnol ar brofiad
Cyfeirnod:
TIN26928B1
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( Cytundeb cychwynnol o 12 mis, Llawn Amser (40awr) )
Cleient:
Tinopolis
Dyddiad Cau:
07-10-2026

Golygydd Fideo

Y SWYDD

Rydym yn chwilio am olygydd fideo talentog i ymuno â’n tîm, i olygu cynnwys fydd yn cael ei ddarlledu ar y teledu yn bennaf, yn ogystal â chynnwys ar gyfer llwyfannau digidol a chymdeithasol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyderus wrth ddefnyddio Avid Media Composer a/neu Adobe Premiere Pro, a bydd ganddo ddealltwriaeth gadarn o sut i adrodd stori yn weledol.

Byddwch yn ymuno ag un o brif gwmnïau cynhyrchu teledu a ffilm annibynnol y DU, gan weithio ochr yn ochr â thîm o olygyddion i greu VTs a chynnwys arall ar gyfer rhaglenni byw dyddiol.

Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ar wahanol gamau yn eu gyrfa.

 

LLEOLIAD

Byddwch yn gweithio ar y safle yng Nghanolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE.

 

SGILIAU ALLWEDDOL

Hanfodol

  • Profiad o olygu fideo ar gyfer ei ddarlledu ar y teledu.
  • Hyfedredd wrth ddefnyddio Avid Media Composer a/neu Adobe Premiere Pro.
  • Dealltwriaeth gadarn o Gymraeg llafar, sy’n ddigonol i olygu cynnwys Cymraeg yn hyderus ac yn gywir.
  • Barn olygyddol gadarn a’r gallu i lunio straeon drwy ddefnyddio lluniau, tempo, sain a graffeg.
  • Y gallu i ymateb yn effeithiol i adborth golygyddol.
  • Dealltwriaeth o sut i addasu arddull, tempo a fformat y golygu i weddu i wahanol gynulleidfaoedd a llwyfannau.
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i gydweithio’n effeithiol â chynhyrchwyr, cyfarwyddwyr a thimau technegol.
  • Y gallu i weithio dan bwysau, addasu i flaenoriaethau sy’n newid a chwrdd â therfynau amser tynn.
  • Ymwybyddiaeth o ganllawiau darlledu, gofynion cydymffurfio a safonau ansawdd.

 

Dymunol

  • Profiad o olygu cynnwys ar gyfer rhaglenni dyddiol neu rhai byw.
  • Profiad o greu cynnwys digidol a chynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
  • Profiad o ddefnyddio DaVinci Resolve a/neu Adobe After Effects.

 

PRIF GYFRIFOLDEBAU A GOFYNION

  • Golygu VTs a chynnwys fideo arall ar gyfer llwyfannau darlledu a digidol.
  • Gweithio gyda cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr i ddatblygu straeon clir a deniadol.
  • Addasu cynnwys ar gyfer gwahanol fformatau, gan gynnwys cynnwys byr ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a fersiynau hirach ar gyfer darlledu.
  • Golygu a chydbwyso sain, cywiro lliwiau, ac ychwanegu graffeg a theitlau.
  • Gweithio’n gyflym ac yn gywir i gwrdd â therfynau amser rhaglenni ac ymateb i ofynion golygyddol sy’n newid.
  • Cydweithio ar draws adrannau a manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd.

 

MANYLION Y SWYDD

Contract: Cytundeb cychwynnol o 12 mis gyda cyfnod prawf o 6 mis

Dyddiad cau: 7 Hydref 2026

 

MANYLION PELLACH

Oriau gwaith:

40 awr yr wythnos ar gyfartaledd dros 5 diwrnod. Bydd y patrwm gwaith yn amrywio yn ôl yr amserlenni cynhyrchu, a gall gynnwys dechrau’n gynnar, gorffen yn hwyr, gweithio ar benwythnosau ac ar wyliau banc.

Gwyliau:

Yn ogystal â’r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 25 diwrnod o wyliau’r flwyddyn ar sail pro rata.

Pensiwn:

Mae gan staff cyflogedig hawl i ymuno â’r cynllun pensiwn, yn amodol ar delerau’r cynllun. Bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o’ch cyflog sylfaenol, a bydd disgwyl i chi gyfrannu 5%.

 

CEISIADAU

Anfonwch lythyr eglurhaol a CV erbyn 7 Hydref 2026 at:swyddi@tinopolis.com

 

 

GWYBODAETH YCHWANEGOL

Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid i bob ymgeisydd fod â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU. Bydd angen tystiolaeth ddogfennol fel rhan o’r broses recriwtio. Wrth wneud cais, bydd angen i chi gyflwyno CV. Byddwn yn cadw copi o’ch CV am hyd at dair blynedd. Os bydd swydd debyg yn codi yn ystod y cyfnod hwn, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol ar unrhyw adeg.

I gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, ewch i:

http://www.tinopolis.com/privacy-notice/