A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cyfieithydd (Cyfieithu ar y Pryd / Testun) / Swyddle
Swydd:
Cyfieithydd (Cyfieithu ar y Pryd / Testun)
Lleoliad:
Aberystwyth, Hybrid, Gweithio o Gartref
Cyflog:
£39,905.97 - £46,048.78 (pro rata)
Cyfeirnod:
261128Aber6399
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol (Lefel 5 / C2)
Math o Swydd:
Parhaol ( 21.9 awr, patrwm gwaith hyblyg, hybrid, gweithio’n rhannol o gartref )
Cleient:
Dyddiad Cau:
20-12-2026

Mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yn dymuno penodi cyfieithydd i ymuno â thîm yr Uned Gyfieithu i ddarparu gwasanaeth cyfieithu testun i’r Brifysgol, ynghyd â chyfieithu ar y pryd yng nghyfarfodydd prif bwyllgorau’r Brifysgol a chyfarfodydd amrywiol eraill. Dyma gyfle cyffrous i unigolyn â phrofiad o gyfieithu’n broffesiynol i gefnogi’r Brifysgol i weithredu’n ddwyieithog a chyflawni amcanion Safonau’r Gymraeg. Disgwylir i’r cyfieithydd ddarparu gwasanaeth cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg. Mae’r swydd yn un rhan amser (21.9 awr) a bydd y cydbwysedd rhwng gwaith cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd yn amrywio o wythnos i wythnos yn ddibynnol ar y galw. Yn fras, disgwylir y bydd y cyfieithydd yn treulio tuag 20% o’r oriau gwaith yn cyfieithu ar y pryd. Ceir hyblygrwydd o ran yr union batrwm gwaith ac mae’r swydd yn addas ar gyfer gweithio yn rhannol o gartref.

Fel arfer fe benodir i swyddi o fewn 4 - 8 wythnos wedi’r dyddiad cau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud

Gallai’r disgrifiad swydd hwn gael ei adolygu a’i newid yn sgil newid yn anghenion y Brifysgol, i roi cyfleoedd datblygu priodol ac/neu i ychwanegu dyletswyddau rhesymol eraill.

  • Darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg yn unol â gofynion Safonau’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd, gwasanaethau proffesiynol a phrif bwyllgorau’r Brifysgol.
  • Bydd gofyn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys cyfarfodydd a chyfweliadau a drefnir gan Adnoddau Dynol, cyfarfodydd un i un rhwng staff a myfyrwyr, seminarau a darlithoedd cyhoeddus.
  • Darparu gwasanaeth cyfieithu testun sy’n broffesiynol o’r Gymraeg i’r Saesneg ac o’r Saesneg i’r Gymraeg i adrannau a chyfadrannau academaidd a gwasanaethau proffesiynol y Brifysgol.
  • Ymgyfarwyddo â systemau ac offer cyfieithu ar y pryd.
  • Bod yn barod i weithio’n hyblyg yn ôl yr angen (e.e. mewn lleoliadau eraill ac eithrio campws Prifysgol Aberystwyth).
  • Defnyddio system Cof Cyfieithu a system Llif Gwaith yr Uned Gyfieithu yn effeithiol.
  • Cydweithio â thîm o gyfieithwyr i sicrhau bod y gwaith cyfieithu testun yn cael ei flaenoriaethu’n effeithiol a bod y gwasanaeth yn un prydlon.
  • Cydweithio er mwyn cwrdd â thargedau gwaith yr Uned.
  • Cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd sensitif eu natur a deall pwysigrwydd cyfrinachedd mewn sefyllfaoedd o’r fath.
  • Cyfieithu dogfennau sensitif a chyfrinachol eu cynnwys a deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymdrin â’r dogfennau hyn.
  • Sicrhau ansawdd y gwasanaeth a gynigir a defnyddio terminoleg gywir a chyson yn unol ag arfer y Brifysgol.
  • Sicrhau bod ceisiadau cyfieithu testun yn cael eu dychwelyd yn unol â’r amserlenni y cytunwyd arnynt.
  • Ymgynghori â chwsmeriaid am eu hanghenion cyfieithu ar y pryd, e.e. nifer y bobl a fydd yn bresennol, faint o offer fydd eu hangen, natur ac amseru’r digwyddiad.
  • Ymgynghori â chwsmeriaid am gynnwys dogfennau a anfonir i’w cyfieithu ac am ddyddiadau dychwelyd gwaith.
  • Cydweithio’n effeithiol â chydweithwyr yng Nghanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg ac â staff a myfyrwyr ar draws holl adrannau’r Brifysgol gan ddarparu cyngor a chefnogaeth ieithyddol briodol o ansawdd uchel.
  • Ymrwymo i ofynion Safonau’r Gymraeg.
  • Cyflawni dyletswyddau a chyfrifoldebau iechyd a diogelwch sy’n briodol i’r swydd.
  • Ymroi i Bolisi Cyfle Cyfartal ac Amrywioldeb y Brifysgol, a deall sut mae’n gweithredu o fewn cyfrifoldebau’r swydd.
  • Ymroi i’ch datblygiad eich hun a datblygiad eich staff, drwy ddefnyddio proses Cynllun Cyfraniad Effeithiol y Brifysgol yn effeithiol.
  • Unrhyw ddyletswydd resymol arall sy'n cyfateb i radd y swydd.

Pwy ydych chi – Cymwysterau, Profiad, Gwybodaeth a Sgiliau:

Hanfodol

  • Gradd mewn pwnc perthnasol.
  • Profiad helaeth o gyfieithu ar y pryd.
  • Profiad helaeth o gyfieithu pob math o destunau yn enwedig testunau academaidd, gweinyddol a deunyddiau hyrwyddo a marchnata.
  • Profiad o drin testunau a sefyllfaoedd cyfrinachol.
  • Profiad o ddefnyddio offer cyfieithu ar y pryd a systemau cof cyfieithu.
  • Profiad o weithio mewn cyd-destun prysur ac o dan bwysau.
  • Gwybodaeth drylwyr am ramadeg y Gymraeg a’r datblygiadau diweddaraf ym maes cyfieithu a’r Gymraeg.
  • Gwybodaeth am ofynion Safonau’r Gymraeg mewn perthynas â darparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.
  • Cywirdeb ieithyddol wrth ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Sgiliau rheoli amser effeithiol a phrofiad o weithio i derfynau amser tyn.
  • Sgiliau cyfathrebu effeithiol a’r gallu i gyfathrebu â chynulleidfaoedd amrywiol.
  • Lefel Cymraeg Llafar ac Ysgrifenedig C2.

Dymunol

  • Cymhwyster proffesiynol mewn cyfieithu a chyfieithu ar y pryd.
  • Profiad o gyfieithu i sefydliad Addysg Uwch.
  • Gwybodaeth am weithdrefnau Addysg Uwch.

Sut i wneud cais

I hyrwyddo gweithlu hyblyg, bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan unigolion sy'n chwilio am drefniadau gwaith amser llawn, rhan-amser, rhannu swydd, neu yn ystod y tymor yn unig.

Rhaid gwneud cais am y swydd hon drwy jobs.aber.ac.uk. Pwyswch ‘Ceisio’ uchod i gael eich ailgyfeirio i’r dudalen ymgeisio.

Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Buddion

  • Polisi gweithio’n hyblyg
  • Gweithio hybrid
  • 36.5 awr yr wythnos ar gyfer swyddi amser llawn
  • Hawliau gwyliau hael – 27 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a’r dyddiau pan fo’r Brifysgol ar gau
  • Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol
  • Cyfraniad uwch i'n cynlluniau pensiwn gweithle
  • Cynlluniau cydnabod a gwobrwyo staff
  • Cyfle i ddysgu ac i loywi eich Cymraeg am ddim
  • Bwrsariaeth tuag at symud i’r ardal
  • Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Rhieni a Mabwysiadu
  • Gostyngiadau i staff yn yr adnoddau chwaraeon a’r mannau gwerthu ar y campws.

Mwy o wybodaeth

Yn gyffredinol, mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi gweithio hybrid, gan ganiatáu cymysgedd o weithio yn y swyddfa a gweithio o bell ar gyfer rolau addas i wella hyblygrwydd a chynhyrchiant. Mae disgrifiadau swyddi fel arfer yn manylu ar leoliad gwaith cynradd ochr yn ochr â chyfleoedd ar gyfer gwaith hyblyg, o bell, neu gartref, yn amodol ar anghenion y gwasanaeth a chymeradwyaeth y rheolwr.

Rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir a chymuned, yn enwedig y rhai heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein gweithlu ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ymgeiswyr ag anableddau, a menywod.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog sy’n cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg ac sy’n ymroddedig i Gyfle Cyfartal. Mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni, ac rydym yn annog a chynorthwyo ein staff i ddysgu Cymraeg ac i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau iaith yn y gweithle. Mae croeso i chi wneud cais am unrhyw swydd yn Gymraeg neu yn Saesneg a bydd pob cais a gyflwynir yn cael ei drin yn gyfartal.

Fisa Cyflogaeth:

O dan gynllun system bwyntiau Llywodraeth y DU, nid yw'r swydd hon yn bodloni'r meini prawf i gael ei noddi gan Brifysgol Aberystwyth ar gyfer cais Llwybr Gweithiwr Medrus (SWR).

Wrth wneud cais, nodwch eich bod wedi gweld y swydd ar Swyddle.