Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Cyngor Tref Llangefni
Clerc y Dref a Swyddog Cyllid Cyfrifol
Mae Cyngor Tref Llangefni yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a phrofiadol i ymgymryd â’r rôl ddeuol o Glerc y Dref a Swyddog Cyllid Cyfrifol, gan oruchwylio gweithrediadau statudol, gweinyddol a chyllidol y Cyngor.
Bydd gan ymgeisydd delfrydol sgiliau llythrennedd, rhifedd, cyfathrebu a chyfrifadurol cryf yn ogystal â bod yn berson gonest, diduedd a gwrthrychol.
Bydd y tâl yn seiliedig ar y raddfa gyflog NJC/SLCC Pwynt 37 i 39 (£25.00 I £26.06 yr awr - £48,100 i £50,139 y flwyddyn) yn ddibynnol ar brofiad a chymwysterau. Bydd pensiwn gweithle ar gael os dymunir.
Mae 5 o straff ac mae’r cyfarfodydd i gyd yn cael eu cynnal drwy’r Gymraeg. Yr archebiant ar gyfer 2026/27 yw £ 361,000.
Buasai cefndir ym maes gweinyddiaeth llywodraeth leol a/neu gyllid yn fantais.
Am ragor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol, ebostiwch y Cadeirydd, Margaret Thomas:
????cyngortref@llangefni.org
Er mwyn ymgeisio, ebostiwch eich CV i’r Cadeirydd.
????️ Dyddiad cau: 30 Hydref 2026
This advert is in Welsh only as the ability to read, write and communicate fluently through the medium of Welsh is essential for this post