A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Uwch Reolwr Prosiect (Seilwaith a Depos Cleientiaid) / Swyddle
Swydd:
Uwch Reolwr Prosiect (Seilwaith a Depos Cleientiaid)
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
Cystadleuol
Cyfeirnod:
REC01345
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
04-08-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd yr Uwch Reolwr Prosiect (Seilwaith a Depos Cleientiaid) yn datblygu ac yn cyflawni prosiectau newid cymhleth sy’n ymwneud â cherbydau ac sydd â ffocws masnachol er mwyn gwella gwasanaethau trafnidiaeth, effeithlonrwydd gweithredol a phroffidioldeb yn unol â pholisi a strategaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.  Bydd y gwaith datblygu a chyflawni hwn yn gyfuniad o brosiectau mae tîm y Strategaeth a'r Rhaglen Cerbydau yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith o'u cyflawni, yn ogystal â chwarae mwy o rôl noddi ar gyfer prosiectau sy'n ymwneud â cherbydau sy'n cael eu datblygu a'u cyflawni gan dîm Seilwaith TrC.

  • Cefnogi'r Uwch Reolwr Strategaeth Cerbydau a'i dîm drwy ddatblygu unrhyw ofynion ymyriad seilwaith sy'n gysylltiedig ag unrhyw gynlluniau ar gyfer cerbydau newydd/wedi'u haddasu (ee depos, rhagorsafoedd, gorsafoedd ac ati) gyda'r bwriad o roi strategaeth ar waith
  • Bod yn atebol am flaen-ddatblygu cydrannau dylunio depos/rhagorsafoedd/gorsafoedd craidd drwy weithio gyda chadwyn gyflenwi TrC i safoni ar draws dyluniad a darpariaeth depos TrC.
  • Gweithio gyda chadwyn gyflenwi TrC drwy reoli prosiectau’n gadarn i gyflawni anghenion ehangach y depos er mwyn bodloni cynlluniau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru. Rheoli ac arwain timau prosiectau drwy gydweithio â chyd-weithwyr, ymgynghorwyr a chontractwyr i sicrhau bod prosiectau’n cyflawni canlyniadau.
  • Gweithio gyda chydweithwyr TrC drwy sicrhau bod swyddogaethau at y cwsmer (yn unol â chyfrifoldebau RACI depos/fflyd/gweithrediadau) ar waith a’u bod wedi cael eu hystyried yn llawn i alluogi’r holl weithgareddau cynllunio a chyflawni.
  • Arwain prosiectau cymhleth sy’n ymwneud â thrafnidiaeth ac sydd â ffocws masnachol drwy ddefnyddio methodolegau cylch bywyd prosiect cadarn (fel APM neu PRINCE 2), rhoi cynlluniau prosiect ar waith a rheoli adnoddau’n effeithlon i sicrhau bod cerrig milltir allweddol yn cael eu cyflawni a bod prosiectau’n cael eu cwblhau yn unol â’r amserlen, y gyllideb a’r ansawdd a ddisgwylir.

 

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Gradd berthnasol megis Busnes, Cynllunio, Trafnidiaeth, Peirianneg (neu debyg) neu brofiad cyfatebol
  • Gwybodaeth amlwg am reoliadau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol i gefnogi diwylliant cadarn o ddiogelwch.
  • Cymhwyster rheoli prosiect perthnasol fel Ymarferydd APM / Prince 2 neu barodrwydd i’w ennill.
  • Gwybodaeth am Reoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**