A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Uwch Bartner Pobl / Swyddle
Swydd:
Uwch Bartner Pobl
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
Hyd at £63,000 Yn dibynnu ar brofiad
Cyfeirnod:
REC002713
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
03-08-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

 

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd yr Uwch Bartner Pobl yn gyfrifol am arwain tîm o Bartneriaid Pobl i ddarparu cyngor ac arweiniad gweithredol lefel uchel a strategol ynghylch Pobl i faes/meysydd cyfrifoldeb dynodedig. Fel cynghorwr dibynadwy, bydd angen gweithio ar y cyd â'r Tîm Arwain Gweithredol ac uwch arweinwyr swyddogaethol i helpu i siapio, arwain a chyflawni canlyniadau effeithiol yn unol â nodau strategol TrC.

 

Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill.

  • Nodi materion Pobl allweddol mewn meysydd busnes dynodedig, gan gydweithio â rhanddeiliaid i ddarparu atebion mewn modd amserol a chyraeddadwy.
  • Sefydlu perthynas waith effeithiol gyda Chanolfannau Rhagoriaeth a rhanddeiliaid allweddol eraill ar draws y busnes, i gynllunio a darparu cyfres o ymyriadau sy'n ymwneud â Phobl er mwyn sicrhau diwylliant sy'n perfformio'n dda ac sy'n cefnogi perfformiad, ymgysylltiad a gwelliant parhaus.  Mae'r meysydd yn cynnwys Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), Dysgu a Datblygu, Cynllunio'r Gweithlu, a Thalent
  • Cynghori, cynllunio a chefnogi meysydd busnes dynodedig gydag anghenion dylunio sefydliadol a mentrau newid pobl, gan arwain yr holl agweddau sy’n ymwneud â phobl nes eu cwblhau.
  • Arwain tîm o Bartneriaid Pobl a bod yn rheolwr llinell iddynt, gan alluogi unigolion i berfformio a datblygu'n effeithiol – yn y tîm hwnnw ac yn ehangach ar draws y tîm Pobl a Diwylliant.
  • Cynghori ac arwain ymgysylltiad adeiladol ag Undebau Llafur cydnabyddedig yn unol ag egwyddorion Partneriaeth Gymdeithasol TrC drwy ymddiriedaeth a thryloywder

 

Am beth rydyn ni’n chwilio

  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o’r dirwedd Pobl a Chyfraith Cyflogaeth y DU, delio â materion Pobl amrywiol – gan gynnwys trawsnewid a dylunio sefydliadol, diwylliant, gwobrwyo, gallu, a gwella perfformiad – yn ogystal â bod yn hyddysg mewn deddfwriaeth cyflogaeth gyfredol
  • Meddylfryd creadigol ac angerdd dros arloesi, gan fynd ati’n rhagweithiol i ddod â gwybodaeth o’r tu allan a’i defnyddio i wella arferion presennol
  • Profiad o weithio gyda grŵp rhanddeiliaid eang a meithrin perthynas ag uwch randdeiliaid
  • Sgiliau cynllunio a threfnu rhagorol a'r gallu i reoli a pherchnogi nifer o elfennau i'w cyflawni a blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd
  • Profiad o weithio gydag amrywiaeth o Undebau Llafur yn delio â chytundebau cydnabod ac anghydfodau
  • Cyflwyno i'r Weithrediaeth / Bwrdd achosion busnes sy'n sbarduno atebion blaengar er mwyn gwella'r gweithlu

  

Sgiliau Iaith Gymraeg  

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol.

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod.

Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.