Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Bydd y cyflog yn cael ei bennu yn seiliedig ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r swydd hon yn darparu'r swyddogaeth prif arolygwr i Dimau Seilwaith sy'n cyflawni cynlluniau trafnidiaeth newydd, y Rhaglen Masnachfreinio Bysiau a chynllun Buddsoddi Rhwydwaith Gogledd Cymru.
Cynghori'r tîm prosiect, Pennaeth Eiddo Masnachol, y Tîm Arwain Gweithredol (ELT) a'r Uwch Dîm Arwain (SLT) a chyfarwyddiaethau eraill, yn ôl yr angen, drwy ddefnyddio sgiliau ac arbenigedd a drwy ddrafftio papurau i wneud argymhellion a fydd yn sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud ar y cam priodol.
Dealltwriaeth gynhwysfawr o ryngwynebau a rhaglenni sy'n cystadlu â'i gilydd drwy weithio'n agos gyda thimau prosiect a rheoli eiddo i sicrhau bod pob prosiect yn cadw at y rhaglen.
Datblygu a negodi telerau cytundebau ar gyfer gosod eiddo, hawddfreintiau a fforddfreintiau newydd drwy weithio'n agos â thîm cymorth cyfreithiol TrC i sicrhau bod buddiannau TrC yn cael eu diogelu'n briodol, ac nad ydynt yn agored i ormod o risg.
Trafod a drafftio penawdau telerau ar gyfer caffael tir a mathau eraill o drafodion eiddo neu gytundebau masnachol drwy alwadau cynadledda, cyfarfodydd safle a gohebiaeth ysgrifenedig i hwyluso'r gwaith o gyflawni prosiectau a chynlluniau mawr yn unol â dyddiadau cau caeth prosiectau.
Profiad amlwg o ddelio â gwaith caffael tir a mathau eraill o drafodion eiddo neu gytundebau masnachol.
Syrfëwr Siartredig Cymwys (MRICS) neu brofiad cyfatebol amlwg.
Profiad o gyflawni cynlluniau a phrosiectau seilwaith.
Profiad o reoli cysylltiadau effeithiol â chleientiaid a rhanddeiliaid, a hanes llwyddiannus o roi strwythurau adrodd ar waith, o gadw atynt ac o gydymffurfio â nhw.
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.