Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae gan Gymdeithas yr Iaith gyfle cyffrous i unigolyn angerddol a gweithgar ymuno â’n tîm fel Swyddog Polisi.
Prif gyfrifoldeb yr ymgeisydd llwyddiannus fydd i arwain a chydlynu ein gwaith ymchwil, polisi a lobïo ar draws ein meysydd ymgyrchu. Mae hon yn swydd hynod bwysig sy'n ganolog i lwyddiant y Gymdeithas fel mudiad ymgyrchu effeithiol sy'n gosod agenda blaengar ar gyfer y Gymraeg. Manylion pellach yn y 'cais i'w lawrlwytho'.
Lleoliad: i’w drafod, ond bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio yng Nghaerdydd yn achlysurol.
Noder: mae'r cyflog cychwynnol yn ddibynnol ar brofiad, gyda'r posibilrwydd o gyflog uwch i ymgeisydd profiadol.
Cymdeithas o bobl sy’n gweithredu’n ddi-drais dros y Gymraeg a chymunedau Cymru fel rhan o’r chwyldro rhyngwladol dros hawliau a rhyddid ydyn ni. Ni fyddwn yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw ymgeisydd ar sail anabledd, cenedligrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, dosbarth cymdeithasol, ethnigrwydd, hil, hunaniaeth rhywedd, rhywedd, statws rhianta na chyfrifoldebau gofal.
Rydyn ni’n awyddus i gael ceisiadau gan bobl o bob rhan o’n cymunedau, yn enwedig pobl o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, sy’n aml yn cael eu tangynrychioli mewn swyddi o’r math hwn.
Rydyn ni’n croesawu ceisiadau i weithio’n rhan amser neu rannu swydd.