A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Datblygu'r Blaid / Swyddle
Swydd:
Swyddog Datblygu'r Blaid
Lleoliad:
Caerdydd, Cymru
Cyflog:
(£26,300-£35,223) pro-rata
Cyfeirnod:
SwyddogDatblyguDevelopmentOfficer
Sgiliau Cymraeg:
Dymunol
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( 37 awr yr wythnos (pro-rata) )
Cleient:
Dyddiad Cau:
10-12-2026

SWYDDOG DATBLYGU’R BLAID 

Teitl y Swydd: 

Swyddog Datblygu’r Blaid 

Llleoliad: 

Mae’r swydd yn cael ei rheoli o bencadlys y blaid yng Nghaerdydd a gellir ei lleoli yno, ond mae modd ystyried lleoli’r swydd mewn mannau eraill yng Nghymru. 

Mae gan staff Plaid Cymru batrwm hybrid o weithio o bell ac mewn swyddfeydd. 

Math o Gontract 

Llawn-amser / Hyblyg – Bydd Plaid Cymru yn hapus i drafod mathau erail o weithio hyblyg gydag unrhyw ymgeisydd sydd am ymgymryd â’r swydd hon yn rhan-amser neu fel cynllun rhannu swydd. 

Contract am gyfnod cychwynnol tan fis Mai 2027, gyda’r posibilrwydd o estyn y cyfnod tan etholiad nesaf San Steffan (sydd i fod i’w gynnal cyn haf 2029) 

Rheolwr Llinell 

Pennaeth Ymgyrchoedd 

Cyflog 

Band 3 (£26,300-£35,223) pro-rata 

Gwneir penodiadau fel arfer ar ben is y gyfradd 

Oriau Gwaith 

37 awr yr wythnos, gydag angen i weithio’n achlysurol gyda’r nosau ac ar benwythnosau.  Mae gan Blaid Cymru system o weithio hyblyg. Mae’r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn gyda dyddiau braint ychwanegol. 

 

Pwrpas y rôl:  

 

Mae Plaid Cymru eisiau recriwtio unigolion hynod drefnus a brwdfrydig i helpu i ddatblygu seilwaith trefniadol ac ymgyrchu’r blaid. Mae’r swyddi hyn yn rhan o fuddsoddi er mwyn manteisio ar fuddugoliaeth hanesyddol y blaid yn etholiadau mis Mai, adeiladu trefniadaeth y blaid ar lawr gwlad, a sicrhau y bydd y llwyddiant yn parhau yn yr etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau San Steffan. 

 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu arwain, cymell a threfnu ystod eang o wirfoddolwyr ac ymgyrchwyr lleol; cysylltu â grwpiau a mudiadau lleol; a gall gyfathrebu’n effeithiol a chryno ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd angen gwybodaeth o dechnegau ymgyrchu modern yn ogystal â dealltwriaeth o Blaid Cymru a’i gwerthoedd, er y cynigir hyfforddiant ym meddalwedd a strategaethau penodol y blaid. 

  

Prif Gyfrifoldebau:   

 

  • Datblygu a chefnogi strategaethau i gynyddu aelodaeth a datblygu gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr ar lefel leol 

  • Trefnu gweithgareddau ymgyrchu ac ID pleidleiswyr (stondinau stryd / drws i ddrws) 

  • Rhedeg ymgyrchoedd ar bynciau lleol 

  • Trefnu cofrestru pleidleiswyr a phleidleisiau post 

  • Rhoi cynlluniau cyfathrebu digidol ar waith ar gyfer etholaethau a chefnogi ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol 

  • Trefnu digwyddiadau lleol a gweithgareddau codi arian 

  • Sicrhau cyfathrebu effeithiol gydag aelodau a chefnogwyr 

  • Cynllunio ymweliadau a chyfarfodydd lleol i ymgeiswyr a ffigyrau gwleidyddol cenedlaethol 

 

 

Sgiliau a Phrofiad Allweddol 

Hanfodol:  

  • Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac mewn tîm 

  • Medrusrwydd mewn TGCh, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol, a’r gallu i ddysgu sut i ddefnyddio’r mathau o feddlawedd sy’n ganolog i ymgyrchoedd gwleidyddol (er enghraifft, pecyn dylunio Canva, cronfeydd data, a meddalwedd rheoli cysylltiadau megis Nationbuilder) 

  • Sgiliau cyfathrebu da, e.e., gallu drafftio testun hygyrch a chryno ar gyfer amrywiaeth o lwyfannau 

  • Sgiliau trefnu cadarn ac amlwg 

  • Barn gadarn a dealltwriaeth dda o’r hyn a olygir wrth weithio fel rhan o dîm mewn amgylchedd wleidyddol neu dan bwysau 

  • Y gallu i weithio gyda gwirfoddolwyr a’u symbylu 

  • Profiad perthnasol o weithio dan bwysau ac i amserlenni tyn 

 

 

Dymunol: 

 

  • Trwydded yrru 

  • Y gallu i weithio yn Gymraeg a Saesneg 

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10yb – Dydd Iau 10fed o Ragfyr 2026. 

Dyddiadau cyfweliadau yw cadarnhau. 

 

Anfonwch ffurflenni cais wedi'u cwblhau at: paula.reed@plaid.cymru