Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
SWYDDOG DATBLYGU’R BLAID
|
Teitl y Swydd: |
Swyddog Datblygu’r Blaid |
|
Llleoliad: |
Mae’r swydd yn cael ei rheoli o bencadlys y blaid yng Nghaerdydd a gellir ei lleoli yno, ond mae modd ystyried lleoli’r swydd mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae gan staff Plaid Cymru batrwm hybrid o weithio o bell ac mewn swyddfeydd. |
|
Math o Gontract |
Llawn-amser / Hyblyg – Bydd Plaid Cymru yn hapus i drafod mathau erail o weithio hyblyg gydag unrhyw ymgeisydd sydd am ymgymryd â’r swydd hon yn rhan-amser neu fel cynllun rhannu swydd. Contract am gyfnod cychwynnol tan fis Mai 2027, gyda’r posibilrwydd o estyn y cyfnod tan etholiad nesaf San Steffan (sydd i fod i’w gynnal cyn haf 2029) |
|
Rheolwr Llinell |
Pennaeth Ymgyrchoedd |
|
Cyflog |
Band 3 (£26,300-£35,223) pro-rata Gwneir penodiadau fel arfer ar ben is y gyfradd |
|
Oriau Gwaith |
37 awr yr wythnos, gydag angen i weithio’n achlysurol gyda’r nosau ac ar benwythnosau. Mae gan Blaid Cymru system o weithio hyblyg. Mae’r swydd yn cynnig 28 diwrnod o wyliau y flwyddyn gyda dyddiau braint ychwanegol. |
Pwrpas y rôl:
Mae Plaid Cymru eisiau recriwtio unigolion hynod drefnus a brwdfrydig i helpu i ddatblygu seilwaith trefniadol ac ymgyrchu’r blaid. Mae’r swyddi hyn yn rhan o fuddsoddi er mwyn manteisio ar fuddugoliaeth hanesyddol y blaid yn etholiadau mis Mai, adeiladu trefniadaeth y blaid ar lawr gwlad, a sicrhau y bydd y llwyddiant yn parhau yn yr etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau San Steffan.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu arwain, cymell a threfnu ystod eang o wirfoddolwyr ac ymgyrchwyr lleol; cysylltu â grwpiau a mudiadau lleol; a gall gyfathrebu’n effeithiol a chryno ar lafar ac yn ysgrifenedig. Bydd angen gwybodaeth o dechnegau ymgyrchu modern yn ogystal â dealltwriaeth o Blaid Cymru a’i gwerthoedd, er y cynigir hyfforddiant ym meddalwedd a strategaethau penodol y blaid.
Prif Gyfrifoldebau:
Datblygu a chefnogi strategaethau i gynyddu aelodaeth a datblygu gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr ar lefel leol
Trefnu gweithgareddau ymgyrchu ac ID pleidleiswyr (stondinau stryd / drws i ddrws)
Rhedeg ymgyrchoedd ar bynciau lleol
Trefnu cofrestru pleidleiswyr a phleidleisiau post
Rhoi cynlluniau cyfathrebu digidol ar waith ar gyfer etholaethau a chefnogi ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol
Trefnu digwyddiadau lleol a gweithgareddau codi arian
Sicrhau cyfathrebu effeithiol gydag aelodau a chefnogwyr
Cynllunio ymweliadau a chyfarfodydd lleol i ymgeiswyr a ffigyrau gwleidyddol cenedlaethol
Sgiliau a Phrofiad Allweddol
Hanfodol:
Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun ac mewn tîm
Medrusrwydd mewn TGCh, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol, a’r gallu i ddysgu sut i ddefnyddio’r mathau o feddlawedd sy’n ganolog i ymgyrchoedd gwleidyddol (er enghraifft, pecyn dylunio Canva, cronfeydd data, a meddalwedd rheoli cysylltiadau megis Nationbuilder)
Sgiliau cyfathrebu da, e.e., gallu drafftio testun hygyrch a chryno ar gyfer amrywiaeth o lwyfannau
Sgiliau trefnu cadarn ac amlwg
Barn gadarn a dealltwriaeth dda o’r hyn a olygir wrth weithio fel rhan o dîm mewn amgylchedd wleidyddol neu dan bwysau
Y gallu i weithio gyda gwirfoddolwyr a’u symbylu
Profiad perthnasol o weithio dan bwysau ac i amserlenni tyn
Dymunol:
Trwydded yrru
Y gallu i weithio yn Gymraeg a Saesneg
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 10yb – Dydd Iau 10fed o Ragfyr 2026.
Dyddiadau cyfweliadau yw cadarnhau.
Anfonwch ffurflenni cais wedi'u cwblhau at: paula.reed@plaid.cymru