Byddwch yn rhan o dîm o newyddiadurwyr digidol sydd yn dod a’r newyddion diweddaraf i gynulleidfa Gymraeg o amrywiol ffynonellau. Y nod yw cyrraedd a gwasanaethu cynulleidfa iau, ar ffurf fideo a thestun.
Bydd gennych ddiddordeb mawr mewn creu cynnwys ar gyfer sawl platfform digidol o TikTok, i Instagram, Facebook ac X.
Fel aelod o staff S4C byddwch hefyd yn:
Nodwedd | Hanfodol | Dymunol |
---|---|---|
Profiad |
Profiad o gynhyrchu cynnwys digidol.
|
Profiad o weithio yn y maes newyddion. |
Sgiliau a Gwybodaeth |
Diddordeb a dealltwriaeth o gyfryngau digidol. Diddordeb a dealltwriaeth o newyddion Cymreig a byd eang. Y gallu i gyfathrebu yn glir ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd trwy rwydweithiau cymdeithasol. Ymwybyddiaeth o feddalwedd golygu fideo. Y gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg i safon dda gyda staff ac eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Dealltwriaeth ymarferol o gyfryngau cymdeithasol a llwyfannau digidol (e.e. YouTube, Facebook, Twitter, Instagram Tik Tok).. |
Y gallu i ddefnyddio pecynnau meddalwedd golygu fideo ar unrhyw lefel e.e. Adobe Premiere, Avid, ShotCut. |
Nodweddion Personol |
Trefnus. Creadigol. Y gallu i weithio o fewn amserlenni tynn. |
Lleoliad: Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ neu Ganolfan S4C yn Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1TH. Mae hefyd gennym swyddfa yng Nghaerdydd. Rydym yn cynnig trefniadau gweithio’n ‘hybrid’ ynghyd ag ystod eang o batrymau hyblyg gwahanol.
Cyflog: O gwmpas £28,000 - £32,000 y flwyddyn, yn ddibynnol ar brofiad.
Cytundeb: 6 mis
Oriau Gwaith: 7 diwrnod yr wythnos yn ôl patrwm sifft.
Cyfnod Prawf: 3 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, gyda’ch cyfraniad o 5%.
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Mawrth 19 Tachwedd 2024 at Pobl@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Dyddiad Cyfweliadau: 22 Tachwedd 2024
Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, ac ati.