A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Stiward Data (Cyllid a Llywodraethu) / Swyddle
Swydd:
Stiward Data (Cyllid a Llywodraethu)
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£28,400 - 35,500 Yn ddibynnol ar brofiad
Cyfeirnod:
REC01361
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
27-08-2025
Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Sicrhau cydymffurfiaeth, cywirdeb ac ansawdd data o fewn y gyfarwyddiaeth Cyllid a Llywodraethu, gan weithio’n unol â safonau data Trafnidiaeth Cymru (TrC).

  • Cefnogi’r dasg o weithredu safonau, polisïau a fframwaith rheoli data TrC ar draws y gyfarwyddiaeth Cyllid a Llywodraethu drwy fonitro a chynnal archwiliadau olrhain data, a drwy brosiect datblygu a gwella i sicrhau bod TrC yn cydymffurfio’n gyfreithiol/rheoleiddiol, yn deall y data sydd ganddynt a sut mae'n llifo drwy'r busnes, yn gwella ansawdd a chywirdeb data, yn effeithlon yn weithredol, yn rheoli risg data, yn symleiddio prosesau, yn lleihau costau ac yn sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn defnyddio data dibynadwy a chyson.

 

  • Cefnogi'r gwaith o orfodi rheolau data TrC yn y gyfarwyddiaeth Cyllid a Llywodraethu i sicrhau lefelau uchel o ansawdd data, uniondeb, argaeledd, cyflawnder, cysondeb, preifatrwydd a chydymffurfiaeth. Mae hyn yn cynnwys canfod gwallau neu achosion o hepgor yn y setiau data presennol a sefydlu gweithdrefnau ar gyfer eu diweddaru er mwyn sicrhau cywirdeb.

 

  • Gweithio gyda rhanddeiliaid busnes a'r tîm Gwybodaeth Fusnes (Cyllid a Llywodraethu) i sicrhau bod llinach ddata yn cael ei chofnodi ar gyfer yr holl elfennau data hanfodol, gan gynnal ymddiriedaeth, tryloywder a rheolaeth dros ecosystem ddata TrC, drwy nodi elfennau data allweddol ar gyfer gwaith adrodd, cydymffurfio a gwneud penderfyniadau, cael dealltwriaeth o reolau busnes, diffiniadau a chyd-destunau defnyddio, mapio'r elfennau hyn i ffynonellau data, trawsnewidiadau ac allbynnau, defnyddio offer i wneud gwaith tracio llinach yn awtomatig yn unol â gofynion rheoli data TrC, dogfennu/delweddu llinach, gwneud gwiriadau ansawdd a dilysu data, sicrhau tryloywder a rheoli mynediad, darparu hyfforddiant ar linach data a gwaith monitro a chymeradwyo parhaus.

 

  • Trefnu a chynnal systemau storio data – fel cronfeydd data a thaenlenni – i sicrhau bod data'n cael ei nôl a'i reoli'n effeithlon, gan wneud yn siŵr bod data'n cael ei strwythuro'n rhesymegol, safoni confensiynau enwi, gweithredu rheolaethau mynediad, defnyddio metaddata a geiriaduron data, a gweithio ar y cyd ar draws TrC i awtomeiddio prosesau casglu a mewngludo a diweddaru data.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Gradd mewn Mathemateg, Dadansoddi Data, Gwyddor Data neu Gyfrifiadureg neu brofiad proffesiynol cyfatebol neu debyg sy'n dangos eich gallu i weithio a meddwl mewn modd dadansoddol
  • Profiad o stiwardio data gyda dealltwriaeth gref ynghylch safonau, polisïau a gweithdrefnau data ac yn gyfarwydd â fframweithiau a rheoliadau rheoli data (e.e. GDPR)
  • Sgiliau dadansoddi gwych a llygad da iawn am fanylion
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol i gydweithio ag amrywiol dimau
  • Profiad o broffilio data, metrigau ansawdd data, a thechnegau dilysu data
  • Profiad o offer a thechnolegau rheoli data, fel catalogau data a systemau rheoli metadata

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**