A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Dadansoddydd Data / Swyddle
Swydd:
Dadansoddydd Data
Lleoliad:
Caernarfon, Caerdydd, Caerfyrddin
Cyflog:
£40,000
Cyfeirnod:
s4cdd2671
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( 12 Mis )
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
14-07-2026

Dadansoddydd Data

Pam ymuno ag S4C? 

Yn S4C, rydym yn angerddol dros greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd: 

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani. 

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C gan gyfrannu at ddyfodol sy’n ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru ar ei gyfan wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd - S4C - Mwy na Sianel Deledu - wrth ehangu’n gwylio gyda’n cynnwys ac yn datblygu’n gwasanaeth Digidol yn Gyntaf.

Trosolwg o'r Swydd 

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C a’r tîm Ymchwil Cynulleidfa ar adeg hollbwysig yn hanes y gwasanaeth wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd, S4C - Mwy na Sianel Deledu

Mae S4C yn cyhoeddi cynnwys yn ddyddiol ar draws llwyfannau darlledu, digidol a chyfryngau cymdeithasol, gan gyrraedd cannoedd ar filoedd o bobl yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n hanfodol i S4C ein bod yn deall ymwneud ac ymddygiad ein cynulleidfa ar draws yr holl lwyfannau yma.

Mae ein ffocws yn gynyddol ar ddefnyddio dulliau gwyddor a dadansoddi data i archwilio a chryhnoi ein holl ddata, sydd o faint sylweddol, er mwyn mesur a deall yr holl ddefnydd fesul llwyfan.

Fel Dadansoddydd Data byddwch yn datblygu a chynnal dadansoddiadau pwrpasol a fydd yn gwneud y defnydd gorau o’n holl ddata manwl, gan ddefnyddio eich sgiliau basdata a chodio. Bydd eich gwaith dadansoddi a dehongli yn dylanwadu yn fawr ar ein strategaeth ddigidol, gan sicrhau bod datblygiad cynnwys a chyhoeddi yn cydfynd â thueddiadau ac anghenion cynulleidfaoedd heddiw ac i’r dyfodol.

Byddwch yn defnyddio data a mewnwelediad arbenigol i ragweld newidiadau yn sut mae gwylwyr yn dewis ymwneud â chynnwys S4C ar draws pob llwyfan. Byddwch yn cydweithio gyda nifer o dimau ar draws S4C sydd yn ddibynnol ar gael data perthnasol am sut mae cynulleidfaoedd yn ymateb i’n cynnwys ar draws holl gynnwys digidol cyfresi ac is-frandiau S4C.

Byddwch yn adrodd i’r Pennaeth Ymchwil o fewn Adran Gyfathrebu a Marchnata S4C.

Manylion pellach

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 ddiwrnod mewn swyddfa).

Cyflog: £40,000.00 y flwyddyn

Cytundeb: 12 mis

Oriau gwaith: 35¾ awr yr wythnos.

Cyfnod Profi: Rhaid i bawb a benodir gan S4C gwblhau cyfnod profi 3 mis er mwyn adolygu perfformiad, ymddygiad a mynychder. Mae S4C yn cadw'r hawl i derfynu contract yn ystod y cyfnod profi, gydag wythnos o rybudd.

Gwyliau: Yn ychwanegol at wyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau blynyddol a thâl.

Pensiwn: Mae gan aelodau o staff sydd wedi'u cyflogi yr hawl i ymuno â Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, mewn cyd-destun telerau unrhyw gynllun presennol sydd wedi cael ei addasu o bryd i'w gilydd. Os ydych yn dod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Teithio:  Bydd teithio achlysurol yn rhan o'r rôl, fel arfer yn y Deyrnas Unedig.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Mawrth 14 Gorffennaf 2026 at Pobl@s4c.cymru neu at Adran y Bobl a Diwylliant, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Ni fydd CV yn cael eu derbyn.

Dyddiad cyfweliad: 23 Gorffennaf 2026, Lleoliad i’w gadarnhau