A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynghorydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid / Swyddle
Swydd:
Cynghorydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid
Lleoliad:
Aberystwyth, Machynlleth
Cyflog:
£34,400
Cyfeirnod:
TfW1009261119
Sgiliau Cymraeg:
Dymunol
Math o Swydd:
Parhaol ( Cynllun pensiwn gwell, Teithio am ddim ar rheilffyrdd TrC )
Cleient:
Dyddiad Cau:
24-11-2026

Cynghorydd Gwasanaethau i Gwsmeriaid

Cyflog: £34,400 per annum
Lleoliad: Aberystwyth, Machynlleth
Categori: Gorsafoedd a Chyfnewidfeydd
Math o Gontract: Parhaol
Dyddiad Cau: 24 Tachwedd 2026
Cyfeirnod Swydd Wag: 1009

Y Swydd

 

Fel Cynghorwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid, byddwch yn gyfrifol am sicrhau amgylchedd diogel, effeithlon a chroesawgar i bob cwsmer yn ein cyfnewidfa fysiau neu orsaf brysur. Byddwch yn gyfrifol am gyfathrebu'n glir ac am ddarparu cymorth cyson ymhob cam o daith y cwsmer.

 

Mae'n bosibl y cewch eich neilltuo i unrhyw un o'r meysydd allweddol canlynol:

 

  • Helpu cwsmeriaid i brynu tocynnau yn ein swyddfeydd tocynnau, peiriannau tocynnau hunanwasanaeth neu drwy ein ap;
  • Monitro rhwystrau gatiau tocynnau, gwirio tocynnau, a rhoi tocynnau cosb lle bo hynny'n briodol.
  • Helpu cwsmeriaid ar y platfformau a goruchwylio'r gwaith o anfon trenau'n ddiogel ac yn amserol.
  • Darparu cymorth i gwsmeriaid sydd ag anghenion hygyrchedd.
  • Cynnig arweiniad a chefnogaeth i gwsmeriaid yn ein cyfnewidfeydd bysiau prysur
     

Am bwy rydym ni'n chwilio

Hanfodol   

  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog  
  • Sgiliau trefnu ardderchog  
  • Canolbwyntio ar gwsmeriaid  
  • Hyblyg o ran agwedd  
  • Gallu delio'n briodol â sefyllfaoedd anodd  
  • Gallu darparu gwasanaeth o ansawdd uchel yn 
  • gyson i gwsmeriaid  
  • Gallu gweithio'n annibynnol ac fel aelod o dîm  
  • Gallu darparu gwybodaeth ardderchog i gwsmeriaid ac i gyd-weithwyr  
     

Fel cwmni gweithredu trafnidiaeth, rydyn ni yno i'n cwsmeriaid pryd bynnag y bydd angen iddyn nhw deithio – felly mae hyblygrwydd i weithio shifftiau, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc, yn hanfodol.

 

Sgiliau Cymraeg

Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.

Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.

 

Cyfle Cyfartal

Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio."

 

Pwy ydyn ni 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.

 

Y camau nesaf

Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.

Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.