A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cynorthwy-ydd Cysylltiadau Cwsmeriaid / Swyddle
Swydd:
Cynorthwy-ydd Cysylltiadau Cwsmeriaid
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£26,690 - £30,503
Cyfeirnod:
SCGS26917am
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol Lefel 4
Math o Swydd:
Dros Dro ( Amser Llawn, nes ddiwedd mis Medi 2027. )
Cleient:
Senedd Cymru I Welsh Parliament
Dyddiad Cau:
23-09-2026

Teitl y Swydd:     Cynorthwy-ydd Cysylltiadau Cwsmeriaid
Band cyflog:        £26,690 - £30,504
Cyfnod:               Swydd dros dro yw hon, y disgwylir iddi bara hyd at ddiwedd mis Medi 2027.
Dyddiad cau:      23:55 23 Medi 2026.

 

Diben y swydd:


Mae'r swydd hon yn y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid, sy'n sicrhau bod ein cynulleidfa’n cael y profiad gorau posibl o'r Senedd. Mae'r tîm yn darparu gwasanaeth gwybodaeth dwyieithog a diduedd i'r cyhoedd. 

 

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth gwybodaeth proffesiynol ac effeithlon, ar-lein ac wyneb yn wyneb, ac yn darparu cymorth i'r rhai sy'n ymweld i gymryd rhan ym musnes y Senedd neu ei wylio. 

 

Gan adrodd i Reolwr y tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gohebu â'r cyhoedd ac Aelodau o'r Senedd, ynghylch ceisiadau am wybodaeth am ymweliadau a chanfod y ffordd, agenda busnes y Senedd, digwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu amrywiol a drefnir gan y Senedd. 

 

Mae'r rôl hon yn gofyn am allu i roi sylw i fanylion, a sgiliau cryf o ran cyfathrebu a gwasanaeth i gwsmeriaid. Mae'r gallu i gyfathrebu'n hyderus â phobl ar bob lefel yn hanfodol ar gyfer y rôl hon. Mae hyfforddiant a chymorth ardderchog ar gael i'ch helpu yn eich rôl.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd:


1.    Sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid a rhyngbersonol cryf: gallu addasu eich arddull a'ch ffordd o gyflwyno i ddiwallu anghenion yr ymwelydd;

2.    Bod yn drefnus a thrylwyr: gallu cymryd gwybodaeth o ffynonellau amrywiol a rhoi arweiniad cryno, cyflym a pherthnasol i ymwelwyr;

3.    Bod yn fedrus wrth ddefnyddio cymwysiadau neu feddalwedd cyffredin, systemau rheoli cynnwys, ac yn benodol: Microsoft Office 365 (Outlook, Teams, Sharepoint, ac Excel).

Cysylltwch â ni os ydych chi am ymuno â ni.