A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Ieuenctid Caerdydd / Swyddle
Swydd:
Swyddog Ieuenctid Caerdydd
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£26,204 – £28,566 y flwyddyn
Cyfeirnod:
SIC-3
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol ( Tymor penodol, llawn amser )
Cleient:
Dyddiad Cau:
02-11-2026

Swyddog Ieuenctid Caerdydd

Math o gytundeb: Swydd penodol, hyd at 31 Mawrth 2027
Oriau gwaith: Llawn amser (35 awr y wythnos)
Graddfa: Gweithredol 3: £26,204 – £28,566 y flwyddyn
Lleoliad: Gwersyll Caerdydd / Glantaf
Dyddiad cau: 02 Tachwedd

Y Swydd

Darparu ac ymestyn, dan gyfarwyddyd y Bartneriaeth Ieuenctid (Urdd, Menter Caerdydd a Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd), gynnig gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg i bobl ifanc yr ardal.

Bydd y cynnig gwaith ieuenctid yn:

  • Gyfoes ac yn adlewyrchu gofynion pobl ifanc trwy wrando ar eu llais.
  • Cyfrannu at ddatblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc Cymru o bob cefndir cymdeithasol.
  • Ysbrydoli pobl ifanc i ymwneud a’r Gymraeg, gan ddatblygu hyder pob person ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg.
  • Bydd cynnig gwaith ieuenctid yr Urdd yn cyd-asio gyda Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru a Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion.

Am fwy o fanylion cysylltwch â Elen Evans (Rheolwr Cymunedol y De)

Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd wedi ei gwblhau i ni dros e-bost.