A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Dadansoddwr GIS Cynorthwyol / Swyddle
Swydd:
Dadansoddwr GIS Cynorthwyol
Lleoliad:
De Cymru
Cyflog:
£25,000 - £27,000
Cyfeirnod:
REC01366
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
01-09-2025

Disgrifiad Swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau geo-ofodol yn Trafnidiaeth Cymru, gan gynnwys cynhyrchu mapiau, dadansoddi gofodol, rheoli data a datblygu rhaglenni gwe i gefnogi cyflawni prosiectau ar draws y sefydliad.

  • Paratoi mapiau, graffeg a delweddau data sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan ddefnyddio meddalwedd GIS arbenigol fel ArcGIS Pro neu ArcGIS Enterprise, i gyflwyno amrywiaeth o setiau data neu ddadansoddiad mewn ffordd glir a rhesymegol.  
  • Gwneud gwaith dadansoddi gofodol a thrin data, drwy gyfuno setiau data a datblygu adnoddau dadansoddol neu lifau gwaith, gan ddefnyddio offer meddalwedd fel ArcGIS Pro ac FME Form, er mwyn rhoi gwybodaeth data a helpu i ddadansoddi patrymau a thueddiadau posibl. 
  • Cefnogi’r Pennaeth GIS i gynnal y storfa data GIS gorfforaethol, drwy ddod o hyd i setiau data newydd a diweddaru’r setiau data sydd eisoes yn bodoli yn ein Cronfeydd Geo-ddata Menter canolog, er mwyn sicrhau bod TrC yn gallu cyflawni gwasanaeth mapio a GIS effeithlon. 
  • Helpu i weinyddu a diweddaru rhaglenni WebGIS, gan ddefnyddio meddalwedd ArcGIS Enterprise a VertiGIS Studio, i sicrhau bod cydweithwyr, rhanddeiliaid a chleientiaid yn gallu cael gafael ar y ffynonellau data diweddaraf a chywir ar gyfer gwneud penderfyniadau.

  

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Cymhwyster lefel gradd mewn GIS neu bwnc rhifog perthnasol gyda ffocws GIS cryf fel Daearyddiaeth, Gwyddor Data, Gwyddor Amgylcheddol, Peirianneg.
  • Profiad o ddefnyddio meddalwedd GIS bwrdd gwaith Esri (ArcGIS Pro neu ArcMap) i gynhyrchu mapiau a chynnal dadansoddiadau gofodol drwy ddefnyddio offer geobrosesu.
  • Dealltwriaeth dda o reoli data gofodol a chysyniadau sylfaenol GIS. 
  • Gallu meddwl yn greadigol ac yn rhesymegol er mwyn datblygu atebion amserol ac arloesol i broblemau dadansoddi gofodol.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**