Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Ydych chi'n chwilio am swydd lle rydych yn gweithio mewn tîm sy'n ysbrydoli ac yn cefnogi pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? Rydym yn chwilio am unigolion hyblyg sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf i ymuno â'n tîm i ddarparu cymorth gweinyddol i ddiwallu anghenion ein cwsmeriaid.
Sefydliad: Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG), is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru
Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaeth Cymru’n Gweithio.
Gofyniad Iaith Gymraeg: Lefel Ganolradd o leiaf
Fel rhan o'r rhaglen hyfforddi, bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau Prentisiaeth Gweinyddiaeth Busnes Lefel 2 os nad oes ganddynt y cymhwyster yn barod.
Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant ac yn ymrwymo i gael gweithlu cynrychioliadol. Ni fydd unrhyw ymgeisydd yn cael triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd, hil, crefydd, statws priodasol, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nôs ar 26/02/26. Bydd y broses ddethol yn cynnwys prawf ymchwil/ysgrifenedig trwy Teams a chyfweliadau wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Gyrfa Castell-nedd, wythnos dechrau 16/03/2026.
Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion y swydd a'r ffurflen gais. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.