A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Recriwtio / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Recriwtio
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
Cystadleuol
Cyfeirnod:
REC01328
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
04-08-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

 

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd y Rheolwr Recriwtio yn gyfrifol am arwain darpariaeth recriwtio Trafnidiaeth Cymru (TrC), gan gynnwys adnoddau gweithredol, strategaeth recriwtio ac arwain ymdrech TrC i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau ar draws y sector.

 

Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill.

  • Ysgrifennu’r strategaeth recriwtio flynyddol drwy ddyfeisio prosiectau a gweithio’n agos gyda’r timau Recriwtio a Doniau Cynnar i fynegi dull y timau Recriwtio o gyflawni eu hamcanion corfforaethol strategol.
  • Rhoi cyngor ac arweiniad ar faterion cymhleth, amrywiol ac wedi’u huwchgyfeirio sy’n ymwneud â’r maes gwaith, a datrys problemau cymhleth yn annibynnol, gan gyfeirio materion pwysig at uwch gydweithwyr.
  • Arwain dull TrC o fynd i'r afael â’r bwlch sgiliau ehangach yn y sector drwy weithio gyda'r partneriaid amrywiol ar draws y gadwyn gyflenwi.
  • Arwain darpariaeth recriwtio fewnol TrC drwy reoli darpariaeth y tîm ar draws y busnes a sicrhau bod y tîm yn ymgysylltu’n effeithiol â chwsmeriaid mewnol ac allanol ar bob lefel er mwyn darparu gwasanaeth o safon uchel.
  • Rhoi prosesau ar waith ar gyfer mesur perfformiad a lefelau gwasanaeth y tîm i sicrhau bod y rhain yn cael eu cynnal a’u hadolygu’n barhaus er mwyn sicrhau’r perfformiad gorau posibl.

 

Am bwy rydym ni’n chwilio

  • Profiad amlwg fel Rheolwr Recriwtio, gan arwain timau sy’n cyflawni ac yn perfformio’n dda, gyda dealltwriaeth gadarn o brosesau a strategaethau recriwtio.
  • Profiad amlwg o arwain gweithrediad adnoddau mewnol mawr a chymhleth.
  • Profiad o ddatblygu cysylltiadau sydd o fudd i’r ddwy ochr gyda darparwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid yn y gadwyn gyflenwi.
  • Gallu rheoli cyllideb a dangos gofynion gwario.
  • Wedi gweithio ar lefel strategol i gynllunio, datblygu a gweithredu strategaethau.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg  

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol.

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.