A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Arbenigwr Cynhyrchu Diagramau o Griwiau Trenau / Swyddle
Swydd:
Arbenigwr Cynhyrchu Diagramau o Griwiau Trenau
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
Cyflog o hyd at £44,744.00
Cyfeirnod:
REC002591
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
22-09-2025

Disgrifiad swydd

Sylwer: contract cyfnod penodol yw hwn tan 12 Rhagfyr 2026

 

 

Cyfle Cyfartal

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

 

Pwy ydyn ni 

 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

 

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

 

Mae gennym gyfle cyffrous yn y tîm Cynllunio Trenau ar gyfer Arbenigwr Cynhyrchu Diagramau o Griwiau Trenau, a fydd yn helpu i baratoi diagramau cadarn o griwiau trenau i gyfrannu at y gwaith o ddarparu gwasanaeth trenau a fydd yn cyrraedd targedau perfformiad y fasnachfraint.

Mae’r rôl hon yn cynnwys gweithio ar draws y busnes yn benodol gyda thimau Rheoli ac Adnoddau i sicrhau bod diagramau o griwiau trenau ar gyfer cynllunio tymor byr yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus.

Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:

  • Paratoi diagramau o griwiau trenau i hwyluso gwasanaeth trenau a fydd yn cyrraedd targedau perfformiad y fasnachfraint, a chyhoeddi'r diagramau hyn yn brydlon.
  • Paratoi diagramau cadarn o griwiau trenau ar gyfer yr STP, gan gynnwys Digwyddiadau Arbennig
  • Paratoi a chyflenwi cynlluniau tacsis costeffeithiol
  • Cysylltu â Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Gweithrediadau a Chanolfannau Adnoddau i wneud yn siŵr bod diagramau'n cyd-fynd â chynlluniau'r gweithlu a'r gyllideb, ac i wneud yn siŵr bod modd cyflawni'r cynlluniau gyda'r adnoddau sydd ar gael
  • Cyfrannu at ddiwylliant o wella parhaus drwy nodi a gweithredu gwelliannau i brosesau a systemau cynllunio a diagramau
  • Ysgwyddo cyfrifoldeb llawn dros wythnos gyfan o Gynhyrchu Diagramau o Griwiau Trenau.
  • Cydnabyddiaeth ac ymrwymiad parhaus i’n ffyrdd aml-ddull newydd o weithio wrth i ni ddatblygu ein model trafnidiaeth integredig.

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Profiad o weithio yn y diwydiant Rheilffyrdd
  • Gwybodaeth ddaearyddol drylwyr am yr holl lwybrau mae TrC yn gwasanaethu arnynt
  • Profiad o weithio i derfynau amser a rhoi sylw ardderchog i fanylion
  • Llythrennedd TG ardderchog a gwybodaeth dda am systemau TG cynllunio mynediad/trenau

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

 

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

 

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law