A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Newyddiadurwr dan hyfforddiant (Rhaglenni Cymraeg) / Swyddle
Swydd:
Newyddiadurwr dan hyfforddiant (Rhaglenni Cymraeg)
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£26,710 - £30,195
Cyfeirnod:
1369
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
ITV PLC
Dyddiad Cau:
24-08-2026

Newyddiadurwr dan hyfforddiant (Rhaglenni Cymraeg)

 

ITV Cymru Wales

 

12 mis (Hydref 2026 - Medi 2027)

 

Lleoliad: Caerdydd

 

Cyflog:  £26,710 - £30,195 

 

Mynd yn fyw: 03/08/26


 

Wyt ti’n hoffi siarad gyda phobol a busnesa?!

 

Oes gen ti’r ddawn i fod y cyntaf i wybod y clecs a’r newyddion diweddaraf?

 

Eisiau creu cynnwys ar gyfer gwasanaeth Newyddion digidol S4C a gweithio ar gyfresi materion cyfoes fel Y Byd ar Bedwar a Y Byd yn ei Le?

 

Dyma dy cyfle felly i adrodd straeon a bod yn rhan o dîm cynnwys newyddion digidol a materion cyfoes Cymraeg ITV Cymru.

 

Mae hwn yn gynllun newydd gan ITV Cymru ac S4C i feithrin newyddiadurwyr y dyfodol. Felly os wyt ti’n greadigol a’n gallu gweithio’n dda dan bwysau, yn angerddol am ddatblygu cynnwys ar gyfer platfformau digidol ac eisiau cael profiad o dorri straeon newydd, dyma’r lle i ti gael blas o’r cyfan dan arweiniad tîm o newyddiadurwyr profiadol. 

 

Byddi yn derbyn 12 mis o hyfforddiant ymarferol ac yn datblygu sgiliau angenrheidiol newyddiaduraeth. Byddi yn angerddol am gynnwys amrywiaeth o leisiau a straeon o gorneli o Gymru sydd yn cael eu tan-cynrychioli gan awchu i ddatblygu dy sgiliau technegol yn ogystal â newyddiadurol. 


 

Hanfodol:

 

  • Diddordeb brwd ym myd newyddiaduraeth Cymru a thu hwnt.

  • Adnabyddiaeth gadarn o ffynonellau newyddion amrywiol.

  • Sgiliau ymchwilio i sicrhau cywirdeb a thegwch.

  • Gallu ymdopi gyda sefyllfaoedd heriol a gweithio i derfynau amser dyddiol. 

  • Ymwybyddiaeth wych o blatfformau digidol amrywiol  

  • Cymraeg safonol yn ysgrifenedig ac ar lafar. 


 

Yn ddymunol:

 

  • Profiad ym myd newyddiaduraeth.

  • Trwydded yrru.


 

Mae amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud, ac rydyn ni eisiau adlewyrchu ein cynulleidfa – ar y sgrin ac yn ein gweithle. Mae ITV ar gyfer pawb, ac rydyn ni’n annog pobl Fyddar, pobl anabl, pobl niwroamrywiol a Phobl o Liw i wneud cais am y swydd yma.

 

Mae’r ystafell newyddion yn lle prysur, gyda chynyrchiadau newyddion byw, sy’n aml yn gofyn i gydweithwyr wneud penderfyniadau sydyn dan bwysau. Mae angen pobl sydd yn gallu cymryd camau ar eu liwt eu hunain, ac yn enwedig ar gyfer swyddi golygyddol, pobl sy’n gwybod pa wybodaeth fydd ei hangen a sut i fynd ati i’w chwilio.

 

Mae’n rhaid i ni brofi’r sgiliau yma yn ystod y cyfweliad er mwyn gweld sut fydd ymgeiswyr yn ymateb pan maen nhw’n gweithio mewn sefyllfa dan bwysau. Mae hyn yn rhan hanfodol o’r swydd. Byddwn ni bob amser yn ystyried unrhyw gais am addasiadau rhesymol fel rhan o’r broses gyfweld – er enghraifft, rhannu prif themâu pan fydd hynny’n cael ei ofyn mewn perthynas â chyflwr niwroamrywiol – ond eto gan sicrhau ein bod ni’n gallu profi gallu ymgeisydd i weithio’n effeithiol yn yr ystafell newyddion.


 

I wneud cais, anfonwch CV, llythyr cais a chlip fideo yn ateb y cwestiynau isod.  

 

Gallwch recordio eich clip ar eich ffôn a’i uwchlwytho i Youtube neu wefan arall (er mwyn cael linc bydd angen cyfrif Youtube neu arall arnoch). Cofiwch i labeli’r clip yn glir gyda’ch enw chi. 

 

Hoffwn i chi ateb y cwestiynau penodol yma - 

 

  1. Rhowch eich enw, rhagenwau ac o ble ydych chi’n dod.

  2. Mae gen i ddiddordeb i fod yn newyddiadurwr dan hyfforddiant oherwydd……

  3. Pa bynciau neu straeon yr ydych chi’n teimlo’n angerddol amdanyn nhw?


 

Hoffwn i chi anfon yr atebion fel un clip ac ni ddylai’r fideo cyfan fod yn fwy na 3 munud.


 

Dyddiad Cau:  24/08/26

 

Dyddiad cyfweld: 03/09/26