Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’r tîm o Weinyddwyr Traffig sy’n cynhyrchu ffeiliau achos erlyniad sy'n ymwneud â throseddau Deddf Traffig Ffyrdd diannod yn unig a rhoi cymorth gweinyddol i erlyniadau dan arweiniad yr heddlu. Mae’r swydd rhan amser yma ar gael oherwydd cais am ymddeoliad hyblyg o fewn y tîm. Er mai swydd rhan amser fydd hi i ddechrau, mae’n bosibl y bydd cyfle iddi ddod yn swydd amser llawn yn y dyfodol.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd a maes tystiolaeth Manyleb y Person sy'n nodi ffurflen gais a'r uchafswm geiriau ar gyfer pob adran.
Nodwch deitl y maes rydych yn dangos tystiolaeth ar ei gyfer a rhowch y dystiolaeth yn y blwch canlynol. I ychwanegu'r maes nesaf, dewiswch enghraifft arall ar gyfer pob maes gofynnol fel y nodir ym Manyleb y Person.
Cyfeiriwch at y canllaw i ymgeiswyr ar y wefan hefyd, sy'n rhoi mwy o fanylion ar sut i lunio eich ymateb.
Y buddion rydym yn eu cynnig
Yma yn Heddlu Gwent, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr, ac rydym yn rhoi digonedd o gefnogaeth a hyfforddiant i sicrhau eich bod yn rhagori yn eich swydd. Rydym hefyd yn cynnig buddion fel y rhai canlynol:
Er mwyn i ni allu darparu gwasanaeth plismona rhagorol i bawb, mae angen pobl o bob cefndir arnom ni, gydag amrywiaeth o brofiadau proffesiynol a phrofiadau bywyd, fel ein bod yn cynrychioli ein cymunedau go iawn.
Mae gan Heddlu Gwent raglen gymorth gweithredu cadarnhaol i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch Brian, Clare a Rima: positive.action@gwent.police.uk neu ewch i’n tudalen gweithredu cadarnhaol yma: Gweithredu Cadarnhaol | Heddlu Gwent
Rydym yn falch i fod yn wasanaeth plismona sy’n siarad Cymraeg ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â sgiliau Cymraeg.