A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Cydlynydd Adrannau Technegol a Gweithrediadau Cynnwys / Swyddle
Swydd:
Cydlynydd Adrannau Technegol a Gweithrediadau Cynnwys
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
£28,259
Cyfeirnod:
261125S4C66750
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol
Math o Swydd:
Parhaol ( 35¾ awr/wythnos , 10% pensiwn cyflogwr )
Cleient:
S4C
Dyddiad Cau:
07-12-2026

Cydlynydd Adrannau Technegol a Gweithrediadau Cynnwys

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon

Pam ymuno ag S4C? 

Yn S4C, rydym yn angerddol dros greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd: 

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani. 

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C gan gyfrannu at ddyfodol sy’n ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru ar ei gyfan wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd - S4C - Mwy na Sianel Deledu - wrth ehangu’n gwylio gyda’n cynnwys ac yn datblygu’n gwasanaeth Digidol yn Gyntaf.

Trosolwg o'r Swydd 

Fel Cydlynydd Adrannau Technegol a Gweithrediadau Cynnwys byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi gwaith yr adran Dechnegol a Gweithrediadau Cynnwys ar draws holl elfennau gwaith yr adrannau. Yn ogystal bydd disgwyl i’r rôl yma weithio’n agos gyda Rheolwr Swyddfa  a Chynorthwyydd Adran Gorfforaethol S4C drwy fod yn bwynt cyswllt ar gyfer gweithrediadau swyddfa S4C yn Sgwâr Canolog, Caerdydd.

Mae'r rôl yn darparu cefnogaeth weinyddol, sefydliadol a gweithredol gynhwysfawr ar draws yr adrannau Technegol a Gweithrediadau Cynnwys a gyda materion sy’n ymwneud â swyddfa Caerdydd. Mae'r swydd hon yn  gyfrifol am sicrhau bod gweithgareddau adrannol yn cael eu cydlynu'n effeithiol, cynnal cofnodion a systemau cywir, monitro terfynau amser a chyflawniadau, a hwyluso cyfathrebu rhwng timau mewnol a rhanddeiliaid allanol.

Mae’r swydd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi gweithrediadau'r darlledwr i redeg yn esmwyth, gan helpu i sicrhau bod gwasanaethau technegol yn cael eu cydlynu'n effeithiol a bod prosesau swyddfa ac adrannol yn gweithredu'n effeithlon. Mae'r rôl yn gofyn am unigolyn rhagweithiol, trefnus a hyblyg a all reoli blaenoriaethau cystadleuol a chyfrannu at welliant parhaus ar draws y sefydliad drwy gefnogi Penaethiaid yr adrannau uchod.

Yn ogystal byddwch yn bwynt cyswllt pwysig i randdeiliaid perthnasol o’r sector, sydd yn ymwneud a’r swydd hon. Byddwch yn gweithio o fewn yr adran Gweithrediadau Cynnwys, ac yn cyfrannu at drefnu digwyddiadau a chyfarfodydd, cynnal dogfennaeth a gweithdrefnau perthnasol, a chynorthwyo’r adrannau perthnasol i greu a chynnal prosesau a systemau effeithiol ar draws llifoedd gwaith comisiynu, cynhyrchu, cyfleu a chyhoeddi cynnwys ar bob platfform.  

Byddwch yn adrodd i Bennaeth Gweithrediadau Cynnwys o fewn Adran Gweithrediadau Cynnwys S4C.

Manylion pellach

Lleoliad: Swyddfa Caerdydd S4C (o leiaf 3 diwrnod mewn swyddfa).

Cyflog: £28,259.00 y flwyddyn

Cytundeb: Parhaol

Oriau gwaith: 35¾ awr yr wythnos

Cyfnod Prawf: Rhaid i bawb a benodir gan S4C gwblhau cyfnod prawf 3 mis er mwyn adolygu perfformiad, ymddygiad a mynychder. Mae S4C yn cadw'r hawl i derfynu contract yn ystod y cyfnod prawf, gydag wythnos o rybudd.

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.  Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae gan aelodau o staff sydd wedi'u cyflogi yr hawl i ymuno â Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, mewn cyd-destun telerau unrhyw gynllun presennol sydd wedi cael ei addasu o bryd i'w gilydd. Os ydych yn dod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o'r rôl, fel arfer yn y Deyrnas Unedig.

Ceisiadau 

Dylid anfon ceisiadau erbyn 09.00 y bore ar ddydd Llun 7 Rhagfyr 2026 at Pobl@s4c.cymru.

Nid ydym yn derbyn CV. 

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Rhestr Fer:    Dim hwyrach nag 10 Rhagfyr 2026

Cyfweliadau:  16 Rhagfyr, Swyddfa Caerdydd S4C