Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Yn S4C, rydyn ni'n cynnig mwy na dim ond swydd – rydyn ni'n cynnig y cyfle i fod yn rhan o sefydliad creadigol, dynamig, a chenedlaethol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd diwylliannol Cymru. Fel Cydlynydd Sector a Chynorthwyydd Adran, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi ein gwaith cynnwys a hyrwyddo cyflawniadau S4C yn y gwobrau a'r gweithgareddau, yn ogystal â gweithio'n agos gyda'r sector cynhyrchu.
Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd yn drefnus, yn frwdfrydig, ac sydd â diddordeb mewn cyfryngau ac adloniant. Byddwch yn gweithio gyda thîmau ar draws y sefydliad a byddwch yn adeiladu perthynas â phartneriaid allanol, gan gyfrannu’n uniongyrchol at hyrwyddo rhagoriaeth a chreadigrwydd yn y diwydiant.
Rydym yn cynnig amgylchedd gweithio hyblyg a uchelgeisiol, lle mae eich lles, datblygiad personol, ac ymddangosiadau yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Mae gennym werthoedd cryf – Ar eich orau, Balch o S4C, dathlu pawb, Cer Amdani – ac rydym yn chwilio am rywun sydd â angerdd am weithio mewn ffordd gydweithredol, gadarnhaol, ac ymrwymedig i helpu i gyflawni ein gweledigaeth.
Dewch a bod yn rhan o'n taith.
Manylion eraill
Lleoliad: Gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio o Ganolfan yr Egin, Caerfyrddin, neu o Sgwâr Canolog, Caerdydd.
Cyflog: £29,000 y flwyddyn
Cytundeb: 9 Mis
Cyfnod prawf: 6 mis
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Mercher 14 Awst 2025 trwy lenwi’r ffurflen gais yma.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.