Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dawnus i’r swydd hon.
Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yw’r corff cenedlaethol sy’n arwain, datblygu a hyrwyddo cyfieithu proffesiynol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg i/o’r Saesneg.
Prif bwrpas y swydd hon yw gwasanaethu ein haelodau, drwy sicrhau trefn arholi effeithiol a rhaglen o gyrsiau a gweithdai hyfforddi a datblygiad proffesiynol.
Bydd deiliad y swydd yn cyfrannu’n llawn at waith y Gymdeithas.
Prif bwrpas y swydd hon yw gwasanaethu ein haelodau drwy:
Gweinyddu’r drefn arholi (yr arholiadau aelodaeth testun a’r prawf cyfieithu ar y pryd) a’r ymgyrch ailymaelodi flynyddol.
Sicrhau cyswllt cyson gyda’r aelodau drwy fwletin newyddion, bwletin swyddi a thendrau a’r cyfryngau cymdeithasol.
Cydweithio i drefnu rhaglen o gyrsiau a gweithdai hyfforddi a datblygiad proffesiynol.
Cydweithio i drefnu rhaglen o ddigwyddiadau cymdeithasol.
Cadw cofnod manwl o holl incwm a gwariant CCC. Mewnbynnu anfonebau i’w talu a chodi anfonebau ar gyfer cyflenwyr.
Talu cyflogau misol ar sail y wybodaeth a geir gan y cyfrifydd. Prif gyswllt bancio ar lein CCC.
Llunio adroddiadau ariannol ar gyfer cyfarfodydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr.
Yn gyffredinol sicrhau gweinyddiaeth esmwyth ac effeithiol y Gymdeithas.
Mae’r Gymdeithas yn un fechan a dim ond un aelod arall o staff sydd ganddi, sef y Prif Swyddog. Mae hyn yn cynnig cyfleoedd i ysgwydd cyfrifoldebau ac i weithio heb oruchwyliaeth er mwyn ehangu profiad a datblygu sgiliau.
Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â Gwyn Williams, y Prif Swyddog, naill ai trwy ffonio 07831 092524 neu trwy e-bost gwyn.williams@cyfieithwyr.cymru
I dderbyn pecyn ymgeisydd e-bostiwch gwyn.williams@cyfieithwyr.cymru
I gael gwybod rhagor am weithgareddau’r Gymdeithas, ewch i’r wefan www.cyfieithwyr.cymru
Severity: Core Warning
Message: Module 'redis' already loaded
Filename: Unknown
Line Number: 0
Backtrace: