Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
AM Y SWYDD WAG YMA
ADRAN A CHYFLOG
Adran – Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyflog – Graddfa 2 - £23,258 (hefyd lwfans shifft o 16%). (Pro Rata am 16 awr yn cynnwys lwfans shifft - £11,666.71)
Oriau Gwaith – 16 awr yr wythnos (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / gweithio llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)
PWY YDYM NI
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.
Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma.
Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi.
Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl.
SUT BYDDWCH YN CYFRANNU
Mae’r Derbynnydd yn rôl a fydd yn wyneb blaen i Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng nghanol dinas Caerdydd gan ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol i’n holl gwsmeriaid ac ymwelwyr. Mae'r Ganolfan yn cynnal llawer o ddigwyddiadau bob blwyddyn, o Bencampwriaeth Agored Badminton Cymru i ddigwyddiadau Gymnasteg Mewnol ochr yn ochr â gweithredu cynllun aelodaeth gyhoeddus a chyfleusterau llety.
GYDA PHWY FYDDWCH CHI’N GWEITHIO
Gan weithio o fewn y tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'r adrannau Gweithrediadau, Cynnal a Chadw ac Arlwyo a Chadw Tŷ.
BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN
Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n siarad Cymraeg sydd â phrofiad blaenorol mewn rôl sy’n delio â chwsmeriaid ac sydd ag angerdd dros ddarparu gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol. Byddwch hefyd yn gyfathrebwr da, yn drefnus ac yn deall TG gyda hyblygrwydd tuag at oriau gwaith.
DYDDIAD CAU
03/05/2024
DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD
17/05/2024
Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Y gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yw rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Severity: Core Warning
Message: Module 'redis' already loaded
Filename: Unknown
Line Number: 0
Backtrace: