A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Integreiddio Amserlenni Bws-Trên Strategol / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Integreiddio Amserlenni Bws-Trên Strategol
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
Cystadleuol
Cyfeirnod:
REC002681
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
10-08-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

 

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Y Rheolwr Integreiddio Amserlenni Bws-Trên Strategol fydd yn gyfrifol am adnabod cyfleoedd i ddarparu teithiau rhyng-ddull gwell rhwng Trenau TrC Bysiau TrC, bysiau trydydd parti a gweithredwyr rheilffordd preifat. Bydd yn cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu amserlenni strategol, creu drafftiau o amserlenni a sicrhau bod yr amserlenni o ansawdd uchel yn ogystal â chyflawni ymrwymiadau Trafnidiaeth Cymru. Wrth greu’r amserlenni hyn, bydd yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheolau cynllunio trenau a’r ymrwymiadau consesiwn.

 

Bydd y cyfrifoldebau’n cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill.

  • Sicrhau bod Safonau ac arferion diogelwch yn cael eu hystyried a’u gweithredu ym mhob rhan o’r gwaith cynllunio strategol.
  • Cynorthwyo gyda’r gwaith o ddatblygu Cynllun Trenau Strategol ar gyfer newidiadau i amserlenni yn y dyfodol gan gynnwys yr amserlen, diagramau cerbydau a diagramau o griwiau trenau; defnyddio disgyblaeth rheoli prosiect i gyflawni allbwn a chyflawni gofynion llywodraethu yn unol â dyddiadau cau.
  • Defnyddio meddalwedd perchnogol (Attune) i greu amserlenni trenau sy’n cydymffurfio â’r Rheolau Cynllunio Trenau ac ymrwymiadau contractiol Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru (Gofynion Gwasanaethau'r Rheilffyrdd).
  • Adnabod achosion busnes cadarnhaol i wella profiad cwsmeriaid ar deithiau rhyng-ddull, lleihau costau a chynyddu refeniw TrC.

 

Am bwy rydym ni’n chwilio

  • Dealltwriaeth dda o weithrediadau rheilffyrdd
  • Dealltwriaeth dda o weithrediadau, deddfwriaeth a rheoliadau bysiau
  • Sgiliau ysgogi a dylanwadu rhagorol
  • Cefndir llwyddiannus o gyflawni amcanion a chanlyniadau
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, gan gynnwys adroddiadau a chyflwyniadau
  • Gwybodaeth a phrofiad o brosesau’r diwydiant rheilffyrdd, yn enwedig y rhai rhwng y gweithredwr a Network Rail
  • Gwybodaeth a phrofiad o weithio mewn amgylchedd â sawl rhanddeiliad, a hanes llwyddiannus o sicrhau’r buddion mwyaf posibl i gwsmeriaid
  • Dull cadarnhaol a rhagweithiol o ddatrys problemau
  • Meddwl yn feirniadol er mwyn gwella canlyniadau busnes

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg  

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol.

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.