A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Prif Reolwr Datblygu Gwerthiannau a Chontractau / Swyddle
Swydd:
Prif Reolwr Datblygu Gwerthiannau a Chontractau
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
hyd at £70,000
Cyfeirnod:
REC01351
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
07-08-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Mae'r Prif Reolwr Datblygu Gwerthiannau a Chontractau yn gyfrifol am ddatblygu a throsi'r holl gyfleoedd refeniw nad ydynt yn ymwneud â thocynnau ar draws Trafnidiaeth Cymru (TrC) a'i is-gwmnïau drwy gynnal cysylltiadau cwsmeriaid strategol â Chwmnïau Gweithredu Trafnidiaeth, Cwmnïau Cerbydau, a thrydydd partïon eraill i wella agenda masnachol y timau mewnol a sicrhau eu bod yn cyflawni rhwymedigaethau’r gwasanaeth.

  • Manteisio ar gyfleoedd i dyfu a datblygu busnes ar draws y diwydiant rheilffyrdd a’r marchnadoedd twf trafnidiaeth ehangach drwy ddatblygu a chynnal cysylltiadau â chwsmeriaid i greu a meithrin llif cadarn o gontractau gwerthu gyda'r nod o ragori ar y targedau refeniw presennol. 
  • Gosod a chyflawni strategaethau masnachol clir ar gyfer pob cwsmer drwy weithio ar y cyd ag amrywiaeth o randdeiliaid mewnol ac allanol i sbarduno perfformiad a phroffidioldeb oes gyfan. 
  • Arwain y gwaith o drefnu a chasglu'r holl waith bidio drwy gydlynu rhanddeiliaid mewnol ac arbenigwyr pwnc i gyflwyno ymatebion cystadleuol o ansawdd uchel. 
  • Arwain y gwaith o negodi'r holl gontractau gwerthu, gan gynnwys estyniadau ac amrywiadau, drwy gymryd camau diwydrwydd dyladwy cadarn mewn perthynas â thelerau ac amodau contractau arfaethedig a nodi, lliniaru a mynd i'r afael â risgiau i ddiogelu buddiannau masnachol TrC a'i is-gwmnïau. 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Profiad amlwg mewn uwch swyddi masnachol a/neu ddatblygu busnes, yn ddelfrydol yn y sectorau rheilffyrdd neu beirianneg.
  • Profiad o reoli prosiectau cymhleth, uchel eu gwerth, a chyflawni canlyniadau dan bwysau ac o fewn amserlenni tynn.
  • Profiad amlwg o reoli trafodaethau masnachol cymhleth, gan negodi a datrys problemau.
  • Dealltwriaeth gadarn o gyfraith contractau, a'r gallu i nodi risgiau masnachol.
  • Profiad o nodi ac ymgymryd â mentrau twf cwsmeriaid strategol i wella perfformiad, proffidioldeb, bodlonrwydd a lleihau risg fasnachol.

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**