A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Lleoliad Myfyrwyr PhD (rhaglen gofal cymdeithasol Ymchwil Data Gweinyddol Cymru) / Swyddle
Swydd:
Lleoliad Myfyrwyr PhD (rhaglen gofal cymdeithasol Ymchwil Data Gweinyddol Cymru)
Cyflog:
£1,855 y mis am dri mis
Cyfeirnod:
SCW103
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Webrecruit
Dyddiad Cau:
25-08-2025

Lleoliad Myfyrwyr PhD (rhaglen gofal cymdeithasol Ymchwil Data Gweinyddol Cymru)
Caerdydd neu Gyffordd Llandudno (gyda gweithio hybrid)

Amdanom Ni

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru’n darparu arweinyddiaeth ac arbenigedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.

Ein gweledigaeth yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ofal a chymorth i blant, oedolion, a’u teuluoedd a’u gofalwyr.

Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn arwain ar ddatblygu a rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol, gwella gwasanaethau, a data ac ymchwil i wella gofal.

Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am Fyfyriwr PhD i ymuno â'n rhaglen Ymchwil Data Gweinyddol (YDG) Cymru, naill ai am dri mis yn llawn amser neu chwe mis yn rhan amser.

Bydd y rôl hon yn derbyn lwfans misol sefydlog o £1,855 y mis am dri mis (pro rata ar gyfer myfyrwyr rhan amser).

Rhaid i chi fod wedi'ch lleoli yn y DU i wneud cais am y rôl hon a gallu ymweld ag un o'r swyddfeydd a nodwyd pan fo angen (ar ychydig iawn o achlysuron).

Y Rôl

Fel Myfyriwr PhD, byddwch yn cyfrannu at ein rhaglen YDG Cymru drwy gefnogi datblygiad ymchwil gofal cymdeithasol gan ddefnyddio data cysylltiedig, wrth ennill profiad mewn amgylchedd polisi byd go iawn.

Gan weithio o fewn y tîm Ymchwil, Data ac Arloesi, byddwch yn cefnogi hyrwyddo a chyflwyno ymchwil gofal cymdeithasol sy'n defnyddio data gweinyddol.

Yn dibynnu ar eich diddordebau ymchwil a'ch cam astudio, efallai y byddwch yn cyfrannu at brosiectau caffael data, yn hyrwyddo canfyddiadau o'n hymarferion gosod blaenoriaethau, ac yn ymgysylltu â'n grŵp ymchwil data cysylltiedig gofal cymdeithasol oedolion.

Byddwch hefyd yn annog defnyddio Banc Data Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL), gan helpu i gyfleu gwerth ymchwil sy'n seiliedig ar ddata, a datblygu eich sgiliau mewn dulliau data cysylltiedig.

Yn ogystal, byddwch yn:

- Ysgrifennu cynnwys hyrwyddo i amlygu gwerth ymchwil data cysylltiedig
- Cefnogi ymchwilwyr a rhanddeiliaid sy'n ymwneud â phrosiectau data gofal cymdeithasol oedolion

Amdanoch Chi

Er mwyn i chi gael eich ystyried yn Fyfyriwr PhD, bydd angen y canlynol arnoch:

- Bod yn ymgymryd â PhD ar hyn o bryd neu ar fin dechrau (o fis Medi/Hydref 2025) sy'n gysylltiedig â gofal cymdeithasol mewn Sefydliad Addysg Uwch yng Nghymru
- Diddordeb mewn defnyddio data cysylltiedig neu setiau data mawr mewn ymchwil gofal cymdeithasol
- Gwybodaeth am ystod o dechnegau gwyddor data, dadansoddi meintiol ac ystadegol
- Sgiliau wrth ddefnyddio meddalwedd ar gyfer dadansoddi ystadegol (e.e. R/Python/STATA)

Dyddiad Cau: 25 Awst 2025

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Ymchwilydd Gwyddor Data, Cynorthwyydd Ymchwil Gofal Cymdeithasol, Cynorthwyydd Ymchwil, Cydymaith Ymchwil, Dadansoddwr Ymchwil (Gofal Cymdeithasol), neu Fyfyriwr Ymchwil PhD.

Gellir gwneud addasiadau yn ystod unrhyw ran o'r broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag anabledd, nam neu gyflwr iechyd, sy'n niwro-wahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Cysylltwch â’r tim Adnoddau Dynol i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.

Felly, os hoffech ymuno â ni fel Myfyriwr PhD, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Gwasanaethau Asiantaeth Gyflogaeth yw'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit.