Swydd:
Rheolwr Amgueddfeydd a 'r Celfyddydau
Cyflog:
£44,075 - £46,142 y flwyddyn
Pwrpas y Swydd
Arwain y tîm(au) y mae’n gyfrifol amdano (ynt) i gyflawni yn effeithiol ac effeithlon yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd drwy greu a chynnal amgylchedd o barch ac ymddiriedaeth gan rymuso, arfogi ac ysbrydoli’r staff.
Cyfrifoldeb am Adnoddau
Staff y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau, cyllidebau’r gwasanaeth, casgliadau amgueddfaol, offer ac adeiladau’r gwasanaeth.
Prif Ddyletswyddau
Arwain
- Bod yn atebol am y gwasanaeth a’r defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o’r adnoddau sydd ar gael.
- Arwain staff y gwasanaeth drwy annog a chymell i berchnogi egwyddorion Ffordd Gwynedd.
- Sicrhau amgylchedd sy’n hyrwyddo llesiant staff.
- Cynorthwyo’r tîm i sefydlu egwyddorion gweithredu gan ystyried deddfau perthnasol.
- Bod yn ymwybodol o sut mae systemau’r tîm yn gweithio a hwyluso i’w herio pan fo angen.
- Sicrhau fod y tîm yn cyfrannu at amcanion gwasanaethau neu sefydliadau eraill.
- Hyrwyddo adnabod a gweithredu ar fygythiadau a chyfleoedd y dyfodol.
- Sicrhau ymwybyddiaeth o’r hinsawdd gyfreithiol a gwleidyddol sy’n effeithio ar y gwasanaeth.
- Sicrhau fod y tîm yn ystyried arferion da yn y maes gwasanaeth.
- Arwain newid o fewn y gwasanaeth lle bo angen.
- Ymdrin â phryderon gan Aelodau Etholedig ynglŷn â’r gwasanaeth.
Galluogi a Grymuso
- Recriwtio a datblygu unigolion a thimau.
- Arfogi’r tîm i sefydlu beth sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
- Sicrhau fod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar sail tystiolaeth.
- Helpu’r tîm i adolygu a herio ei berfformiad.
- Creu awyrgylch sy’n galluogi aelodau’r tîm i gyfrannu a gwneud penderfyniadau.
- Sicrhau ymddiriedaeth ac atebolrwydd o fewn y tîm.
Cyflawni
- Arfogi’r tîm i fesur perfformiad yn erbyn pwrpas.
- Annog arloesi, mentro a dysgu o brofiad.
- Cymell a mentora’r tîm i adnabod a dileu rhwystrau.
- Datrys unrhyw rwystrau na all y tîm eu datrys.
- Sicrhau fod cwynion yn derbyn sylw priodol.
- Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol ac agored i syniadau newydd.
Hunan Adlewyrchu
Adlewyrchu ar gyflawniad personol yn erbyn yr hyn sydd yn y swydd-ddisgrifiad.
Meysydd Penodol y Swydd
- Arwain y Gwasanaeth Amgueddfeydd a’r Celfyddydau yn ei holl agweddau.
- Arwain ac arolygu gwaith Storiel, Amgueddfa Lloyd George, Yr Uned Celfyddydau Cymunedol a Chelfyddydau Gweledol.
- Casglu, dogfennu, diogelu a darparu mynediad at gasgliadau amgueddfaol.
- Arwain ar lunio rhaglen arddangosfeydd a gweithgareddau diwylliannol.
- Codi ymwybyddiaeth o waith Storiel, Amgueddfa Lloyd George a diwylliant Gwynedd.
- Sicrhau arfer proffesiynol da a chynnal safonau Achredu Amgueddfeydd.
- Rhoi cyngor i adrannau eraill ac asiantaethau allanol.
- Darparu cyngor i ymchwilwyr ac ymateb i ymholiadau.
- Gweithio gyda swyddogion dysgu ac ymgysylltu i ddarparu rhaglen addysg a chymunedol.
- Arolygu rhaglen arddangosfeydd orielau’r gwasanaeth.
- Paratoi ceisiadau grant a rheoli prosiectau cysylltiedig.
- Cynnal perthynas gyda Chyfeillion Storiel a sefydliadau cefnogi.
- Gweithio gyda'r Swyddog Celfyddydau Cymunedol i ddyrannu grantiau.
- Cydlynu’r rhaglen waith sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Celfyddydau a’r Cynllun Diwylliant.
- Hyrwyddo defnydd ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r celfyddydau a diwylliant.
- Arwain ar brosiectau a fforymau cydweithredol yn y maes gwasanaeth.
- Ymchwilio a pharatoi adroddiadau.
- Cynrychioli’r gwasanaeth gyda sefydliadau ac asiantaethau allanol.
- Cyfrannu at raglen farchnata a chyhoeddi’r sir.
- Bod yn gyfrifol am benderfyniadau Iechyd a Diogelwch o fewn y gwasanaeth.
- Sicrhau fod cynllun argyfwng y gwasanaeth yn gyfredol.
- Bod yn bwynt cyswllt ar gyfer safleoedd diwylliannol eraill.
- Cyflawni tasgau rheolaethol eraill ar gais y Pennaeth neu’r Pennaeth Cynorthwyol.
Amgylchiadau Arbennig
- Angen gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau yn achlysurol.
- Trwydded yrru lawn a defnydd o gar.