Swydd:
Cynhyrchydd Promos Aml-Blatfform
Lleoliad:
Caerdydd
Cyflog:
Yn unol â phrofiad
Cyfeirnod:
S4CCPAB
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
S4C

 

Rydym yn chwilio am Gynhyrchydd Promos Aml-Blatfform i ymuno ar adran Marchnata a Chyfathrebu. Fel aelod o dîm byddwch yn cynhyrchu a chyfarwyddo cynnwys creadigol sy’n hyrwyddo allbwn y sianel er mwyn codi ymwybyddiaeth o gynnwys S4C a’r gwasanaethau mae’n ei gynnig, gan ddenu cynulleidfaoedd - p'un a ydyn nhw'n gwylio cynnwys ar deledu llinol neu ar blatfformau digidol.

 

Byddwch yn gyfrifol am gyfarwyddo a chynhyrchu ffilmiau byr a hysbysebion creadigol fideo o promos, teasers a showreels aml-blatfform er mwyn codi ymwybyddiaeth am raglenni a denu ystod o wylwyr i S4C.

 

Bydd y rôl yn cefnogi nod strategol S4C i greu sŵn gyda chynnwys beiddgar a sicrhau fod y Gymraeg yn rhan bwysig o fywyd pawb yng Nghymru drwy ddarparu cynnwys beiddgar ac arloesol sy’n dathlu’n diwylliant cyfoes.

 

Byddwch yn gyfrifol am helpu dyfeisio cysyniadau creadigol fel rhan o ymgyrchoedd marchnata ehangach gan gynhyrchu a chyfarwyddo deunydd aml-blatfform sydd yn hyrwyddo rhaglenni a chynnwys S4C yn y modd mwyaf effeithiol o fewn cyfyngderau amser ac arian.

 

Mae’r gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg i safon dda yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.

 

 

Manylion eraill

 

Lleoliad:                 Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog Caerdydd. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn o dro i dro.

 

Cyflog:                   Yn unol â phrofiad

 

Cytundeb:              Parhaol

 

Oriau gwaith:        35.75 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio ar rai penwythnosau a gwyliau banc ac mewn digwyddiadau gyda’r nos. Bydd y cyflog yn cymryd i ystyriaeth yr oriau ychwanegol y mae’n bosibl y bydd angen i chi weithio.

 

Cyfnod prawf:        6 mis

 

Gwyliau:                Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau.

 

Pensiwn:               Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

 

 

Ceisiadau

 

Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn 12:00 ar ddydd Gwener 8 Rhagfyr 2023 i adnoddau.dynol@s4c.cymru neu’r Adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin SA31 3EQ. 

 

Ni dderbynnir CV.

 

Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

 

Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth

 

Nid yw S4C yn caniatáu gwahaniaethu ar sail rhyw, hil, lliw, anabledd, cefndir ethnig neu economaidd-gymdeithasol, oedran, amgylchiadau teuluol, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, gweithwyr amser llawn neu ran-amser, crefydd, safbwynt gwleidyddol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, defnydd ar iaith (heblaw lle bo’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol i’r swydd) neu wahaniaeth amherthnasol arall ac mae’n ymroi i weithio gydag amrywiaeth mewn ffordd gadarnhaol. 

 

Mae S4C yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau o bobl sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau.  Bydd egwyddorion cystadleuaeth deg ac agored yn berthnasol a phenodir ar sail teilyngdod.