Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Yn S4C, rydym yn angerddol dros greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â S4C gan gyfrannu at ddyfodol sy’n ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru ar ei gyfan wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd - S4C - Mwy na Sianel Deledu - wrth ehangu’n gwylio gyda’n cynnwys ac yn datblygu’n gwasanaeth Digidol yn Gyntaf.
Mae S4C yn cyhoeddi cynnwys yn ddyddiol ar draws llwyfannau darlledu, digidol a chyfryngau cymdeithasol, gan gyrraedd cannoedd ar filoedd o bobl yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n hanfodol i S4C ein bod yn deall ymwneud ac ymddygiad ein cynulleidfa ar draws yr holl lwyfannau yma.
Fel Trefnydd Cyfryngau byddwch yn cyd-weithio gyda’r Arweinydd Cyhoeddi a Chyflwyno i amserlennu a darlledu asedau fel tréls, negeseuon hyrwyddo ac eitemau graffeg yn unol â’r flaenoriaeth marchnata a chyfathrebu S4C i ddenu diddordeb y gynulleidfa, a chodi ymwybyddiaeth am ein cynnwys.
Byddwch yn sicrhau bod y cynnwys yma’n cael ei amserlenni a’i gyhoeddi ar draws ein platfformau er mwyn gwneud y mwyaf o gyrhaeddiad ac ymgysylltiad ein cynulleidfa. Bydd eich cyfraniad yn hanfodol wrth i S4C barhau i ddatblygu fel cyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan digidol yn gyntaf.
Fel Trefnydd Cyfryngau byddwch yn angerddol am sicrhau bod ein cynnwys yn cyrraedd y gynulleidfa gywir, ar yr amser cywir, ac ar y platfform cywir er mwyn manteisio ar gyrhaeddiad ein cynulleidfa a’u hannog i ymgysylltu ymhellach â’n cynnwys.
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i weithio wrth galon strategaeth Ddigidol yn Gyntaf S4C, gan helpu i reoli cynnwys ar draws amryw o lwyfannau, a helpu llunio strategaeth hyrwyddo cynnwys ar draws ein platfformau.
Wrth i S4C barhau â'i thrawsnewidiad yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan, mae systemau digidol, llif gwaith cyhoeddi a chyflwyno wrth wraidd popeth a wnawn o fewn y Tîm
Byddwch yn adrodd i’r Arweinydd Cyhoeddi a Chyflwyno o fewn Adran Gweithrediadau Cynnwys S4C.
Cyfnod Prawf: Rhaid i bawb a benodir gan S4C gwblhau cyfnod prawf 3 mis er mwyn adolygu perfformiad, ymddygiad a mynychder. Mae S4C yn cadw'r hawl i derfynu contract yn ystod y cyfnod prawf, gydag wythnos o rybudd.
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae gan aelodau o staff sydd wedi'u cyflogi yr hawl i ymuno â Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, mewn cyd-destun telerau unrhyw gynllun presennol sydd wedi cael ei addasu o bryd i'w gilydd. Os ydych yn dod yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o'r rôl, fel arfer yn y Deyrnas Unedig.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Rhestr Fer: Dim hwyrach nag 10 Rhagfyr 2026
Cyfweliadau: 14 Rhagfyr 2026, Swyddfa Cardydd S4C