A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Rheolwr Marchnata (Ymgyrchoedd) / Swyddle
Swydd:
Rheolwr Marchnata (Ymgyrchoedd)
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
hyd at £37,500
Cyfeirnod:
REC002648
Math o Swydd:
Contract Tymor Penodol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
10-08-2025

Disgrifiad swydd

Sylwch: contract cyfnod penodol am 14 mis yw hwn

 

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

 

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

Cyfrifoldebau’r Rôl

Rydym ni wrthi’n recriwtio Rheolwr Marchnata (Ymgyrchoedd) i ymuno â’n tîm Gwerthu a Marchnata prysur.

 

Bydd deiliad y swydd hon yn gweithio’n agos gydag amryw o randdeiliaid, asiantaethau a phartneriaid mewnol ac allanol i gyflawni elfennau rheilffordd y cynllun Ymgyrchoedd Marchnata blynyddol. Bydd yn dyfeisio, darparu, rheoli a gwerthuso amrywiaeth o syniadau, ymgyrchoedd a digwyddiadau ‘drwy'r llinell’ i fynd i’r afael ag amcanion craidd, a chyflawni'r targedau elw ar fuddsoddiad a gwerthiant y cytunwyd arnynt.

 

Bydd cyfrifoldebau’r swydd yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:

  • Sicrhau bod yr amcanion y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni’n brydlon ac effeithlon.
  • Cynllunio a datblygu ymgyrchoedd/mentrau marchnata cadarn, gan gynnwys rheoli syniadau a datblygiadau creadigol a chynllunio ar gyfer y cyfryngau gydag asiantaethau partner.
  • Defnyddio gwybodaeth am farchnata, ymchwil, metrigau a gynhyrchir gan gyfryngau a chanfyddiadau gwyddor ymddygiadol i werthuso a gwneud y gorau o berfformiad marchnata.
  • Yn atebol am fuddsoddi’r gyllideb sydd wedi ei neilltuo ar gyfer Ymgyrchoedd Marchnata mewn ffordd effeithlon a phroffidiol
  • Ymddwyn fel prif bwynt cyswllt tîm Marchnata’r Rheilffordd ar gyfer yr holl adrannau ar bob lefel yn y sefydliad, yn ogystal â sefydliadau ac asiantaethau allanol sy’n bartneriaid.

 

Am bwy rydym ni’n chwilio

  • Profiad amlwg o weithio ym maes Marchnata, Brandio, a Chyfathrebu. Profiad o gynnal ymgyrchoedd a digwyddiadau i gwsmeriaid / busnes i fusnes a phrofiad o weithio ym maes trafnidiaeth, teithio, twristiaeth neu sector gysylltiedig
  • Profiad o ddefnyddio gwybodaeth a data marchnata i lywio a gwerthuso perfformiad marchnata
  • Profiad o ddefnyddio brand ac o weithio’n unol â chanllawiau’r Brand.
  • Profiad o reoli asiantaethau a chyflenwyr allanol yn effeithlon.
  • Profiad o weithio â chydweithwyr a rhanddeiliaid ar fwy nag un prosiect. Yn rhwydweithiwr hyderus sydd â’r gallu i rwydweithio â phartneriaid mewnol ac allanol er mwyn cefnogi datblygiad syniadau allweddol a chynlluniau marchnata

 

Sgiliau Iaith Gymraeg  

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol.

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

 

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

 

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Os ydych wedi cyflwyno cais am y rôl hon o fewn y 6 mis diwethaf ac wedi bod yn aflwyddiannus, peidiwch ag ailymgeisio oherwydd yn anffodus, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd