Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Mae HWB Caernarfon yn chwilio am Reolwr egnïol, creadigol ac ymgysylltiol i arwain gwaith yr Ardal Gwella Busnes a helpu Caernarfon i wireddu ei photensial llawn.
Mae HWB yn AGB sefydledig, annibynnol, nid-er-elw, dan arweiniad busnesau. Yn dilyn pleidlais adnewyddu lwyddiannus yn 2026, mae’r tymor presennol yn para hyd at 31 Mawrth 2031. Felly, cynigir y swydd am fwy na phedair blynedd, gyda’r potensial i barhau y tu hwnt i 2031 yn amodol ar bleidlais adnewyddu lwyddiannus.
Cyflog: £35,000–£40,000 y flwyddyn, yn dibynnu ar brofiad
Oriau: Llawn amser – 37.5 awr yr wythnos
Pensiwn: Cyfraniad cyflogwr o 5%, i gyfateb cyfraniad cyflogai o 5%
Lleoliad: Caernarfon, gyda rhywfaint o weithio hyblyg/hybrid lle bo’n briodol
Mae hon yn swydd amrywiol ac amlwg, gyda chyfle gwirioneddol i ddatblygu syniadau a gwneud i bethau ddigwydd. Gan weithio gyda busnesau lleol, Bwrdd HWB, Cyngor Gwynedd, Cyngor Tref Caernarfon a phartneriaid eraill, bydd y Rheolwr yn:
• datblygu a chyflawni prosiectau, digwyddiadau ac ymgyrchoedd
• meithrin perthnasoedd cryf â busnesau a phartneriaid
• hyrwyddo Caernarfon a’i chymuned fusnes
• nodi cyfleoedd cyllido, buddsoddi a phartneriaeth
• goruchwylio llywodraethu, cyllidebau a chyflawni Cynllun Busnes yr AGB
Rydym yn chwilio am rywun sydd â chrebwyll cadarn, sgiliau rhyngbersonol cryf a’r gallu i droi syniadau’n weithredu, ac sy’n gallu gweithio’n annibynnol yn ogystal â dod â phobl a sefydliadau ynghyd.
Mae HWB yn gweithredu polisi Cymraeg yn Gyntaf ac yn gweithio’n ddwyieithog. Mae’r gallu i gyfathrebu’n hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hanfodol.
Mae profiad o lywodraethu neu o weithio gyda Bwrdd, a phrofiad o baratoi ceisiadau grant a sicrhau cyllid allanol, yn hanfodol i’r swydd. Byddai profiad o gymorth busnes, adfywio, rheoli prosiectau, marchnata, digwyddiadau, cyllido, gweithio mewn partneriaeth neu’r sector nid-er-elw hefyd yn arbennig o berthnasol.
Os ydych am swydd lle gall eich syniadau wneud gwahaniaeth gweladwy i Gaernarfon, hoffem glywed gennych.
I wneud cais: Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at post@hwbcaernarfon.cymru
Dyddiad cau: 10 Tachwedd 2026
Cyfweliadau: 27 Tachwedd 2026
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person llawn: ar gael yn www.hwbcaernarfon.cymru
Ymholiad anffurfiol: post@hwbcaernarfon.cymru