Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Goruchwylydd Blaendraeth Llyn Tegid
Bala, Parc Cenedlaethol Eryri
Amdanom ni
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn gwarchod harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri. Gan orchuddio 823 milltir o dirwedd amrywiol, mae’r Parc yn gartref i dros 26,000 o bobl, mynydd uchaf Cymru a llyn naturiol mwyaf Cymru, sef Llyn Tegid.
Rydym nawr yn chwilio am Oruchwyliwr Blaendraeth Tymhorol i ymuno â ni ar sail amser llawn ar gyfer contract tymor penodol hyd at 30 Medi 2024.
Y Manteision
- Cyfradd yr awr o £12.20 - £12.82 yr awr
- Pensiwn
- Lwfans Gwyliau o 24 diwrnod (pro rata)
- Dydd Gwyl Dewi i ffwrdd (1af o Fawrth)
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cynllun Cymorth Prynu Car
- Y cyfle i weithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol
Y Rôl
Fel Goruchwylydd Blaendraeth Tymhorol, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod adeilad blaendraeth Llyn Tegid, y maes parcio a’r ardal gyfagos yn rhedeg yn esmwyth.
Yn bedair milltir o hyd a thri chwarter milltir o led, Llyn Tegid yw llyn naturiol mwyaf Cymru. Wedi’i reoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fel adnodd hamdden, rydym yn gwarchod y llyn a’i fioamrywiaeth unigryw. Daw'r safle'n hynod o brysur yn ystod anterth y prif dymor gwyliau ac mae angen ei reoli'n effeithiol i osgoi tagfeydd, problemau posibl rhwng ymwelwyr ac amhariad ar wasanaethau.
Gan hyrwyddo defnydd cyfrifol o Lyn Tegid a’r ardal leol, byddwch yn darparu cyngor a chymorth diogelwch a chyfeiriadedd sylfaenol i’r cyhoedd ac ymwelwyr, gan sicrhau’r safonau uchaf o ofal cwsmer.
Byddwch yn cynorthwyo gyda rheoli’r safle o ddydd i ddydd, gan oruchwylio’r holl weithgareddau parcio ceir gan gynnwys rheoli traffig, trin arian parod, a gorfodi taliadau parcio ceir.
Yn ogystal, byddwch yn:
- Delio ag ymholiadau a chwynion
- Cymryd rhan mewn archwiliadau cyfnodol o ganfyddiad / barn cwsmeriaid
- Sicrhau bod y safle yn cael ei gadw i safon uchel o lanweithdra
- Hyrwyddo cadw at y Cod Cefn Gwlad a chodau ymddygiad lleol
Amdanoch chi
I gael eich ystyried yn Oruchwyliwr Blaendraeth Tymhorol, bydd angen:
- Rhuglder yn y Gymraeg a'r Saesneg
- Profiad o reoli pobl a/neu ofal cwsmeriaid
- Profiad o ymdrin ag arian, yn gyfrifol ac yn gywir
- Ymwybyddiaeth o faterion diogelwch dŵr
- Sgiliau cyfathrebu da
- Gwybodaeth leol dda
- Trwydded yrru lawn, ddilys
Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Oruchwyliwr Twristiaeth, Goruchwyliwr Canolfan Ymwelwyr, Arweinydd Tîm Canolfan Hamdden, Goruchwylydd Canolfan Weithgareddau, neu Arweinydd Tîm Chwaraeon Dŵr.
Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 30 Ebrill 2024.
Os ydych chi am ymuno â ni yn y rôl wobrwyol hon fel Goruchwyliwr Blaendraeth Tymhorol, gwnewch gais trwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Mae'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit yn rhai Asiantaeth Gyflogaeth.
Severity: Core Warning
Message: Module 'redis' already loaded
Filename: Unknown
Line Number: 0
Backtrace: