A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Pennaeth Polisi Rheoleiddio / Swyddle
Swydd:
Pennaeth Polisi Rheoleiddio
Lleoliad:
Casnewydd
Cyflog:
£61,098 - £73,057 y flwyddyn
Cyfeirnod:
ELEDM0904/RB
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Qualifications Wales
Dyddiad Cau:
09-04-2026

Pennaeth Polisi Rheoleiddio
Casnewydd, Cymru (gyda gweithio Hybrid)

Amdanom Ni

Ni yw Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy'n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru.

Ein blaenoriaethau strategol dros y pum mlynedd nesaf yw:

- Datblygu ystod gydlynol a chynhwysol o gymwysterau ar gyfer dysgwyr 14–16 oed
- Adeiladu cynnig cymwysterau effeithiol a chynaliadwy
- Moderneiddio dulliau asesu
- Cefnogi'r system gymwysterau trwy grantiau ac arbenigedd

Rydym nawr yn chwilio am Bennaeth Polisi Rheoleiddio i ymuno â ni ar sail amser llawn, barhaol, gan weithio 37 awr yr wythnos. Gellir trafod ceisiadau am batrymau gwaith amgen, gan gynnwys rhan-amser, rhannu swydd neu secondiadau, yn y cyfweliad.

Y Manteision

- Cyflog o £61,098 - £73,057 y flwyddyn
- 31 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau cyhoeddus a hyd at dri diwrnod o gau'r swyddfa dros y Nadolig)
- Trefniadau gweithio hyblyg
- Aelodaeth o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Y Rôl

Fel ein Pennaeth Polisi Rheoleiddio, byddwch yn arwain datblygiad a chyflawniad polisïau rheoleiddio strategol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n sail i'r system gymwysterau yng Nghymru.

Gan weithio fel rhan o'r tîm uwch arweinyddiaeth, byddwch yn llunio'r fframwaith a'r strategaeth reoleiddio gyffredinol, gan sicrhau cyd-fynd â'n prif amcanion a chefnogi gweithgaredd diwygio cymwysterau.

Byddwch yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, arbenigwyr a thimau mewnol i ddatblygu, adolygu a gweithredu polisïau, wrth werthuso eu heffaith ar ddysgwyr, cyrff dyfarnu a'r system ehangach i lywio gwelliant parhaus.

Yn ogystal, byddwch yn:

- Rheoli'r tîm Polisi Rheoleiddio
- Gwerthuso effaith polisi a goruchwylio asesiadau effaith rheoleiddio
- Cefnogi argymhellion i'r Bwrdd ar strategaeth a datblygiad rheoleiddio
- Arwain sganio gorwelion ac ymatebion i ymgynghoriadau allanol

Amdanoch Chi

I gael eich ystyried yn Bennaeth Polisi Rheoleiddio, bydd angen y canlynol arnoch:

- Profiad o ddatblygu ac ysgrifennu polisi a rheoliadau mewn cyd-destun sy'n gysylltiedig ag addysg, hyfforddiant neu gymwysterau
- Profiad o ddatblygu a/neu gyfrannu at strategaeth mewn cyd-destun sy'n gysylltiedig ag addysg, hyfforddiant neu gymwysterau
- Profiad o ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn cyd-destun polisi
- Profiad rheoli
- Profiad o weithio o fewn modelau rheoleiddio a/neu sicrhau ansawdd
- Profiad o baratoi cyngor ar bolisi a'i weithredu, a chyflwyno hyn i ystod o gynulleidfaoedd o fewn amgylchedd rhanddeiliaid cymhleth

Y dyddiad cau ar gyfer y rôl hon yw 9fed Ebrill 2026. Cynhelir cyfweliadau ar 27ain Ebrill 2026.

Gall sefydliadau eraill alw'r rôl hon yn Bennaeth Polisi, Pennaeth Materion Rheoleiddio, Pennaeth Polisi Cyhoeddus, Pennaeth Polisi a Strategaeth, Pennaeth Llywodraethu a Pholisi, neu Arweinydd Polisi.

Felly, os hoffech ymuno â ni fel Pennaeth Polisi Rheoleiddio, gwnewch gais drwy'r botwm a ddangosir. Mae'r swydd wag hon yn cael ei hysbysebu gan Webrecruit. Gwasanaethau Asiantaeth Gyflogaeth yw'r gwasanaethau a hysbysebir gan Webrecruit.