A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Pennaeth Gwasanaethau Cyllid / Swyddle
Swydd:
Pennaeth Gwasanaethau Cyllid
Lleoliad:
Pontypridd
Cyflog:
£70,000 - £80,000
Cyfeirnod:
REC01340
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Transport For Wales Rail
Dyddiad Cau:
31-07-2025

Disgrifiad swydd

Cyfle Cyfartal

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Mae’n ein gwneud yn gryfach, yn ein helpu i ddeall ein cwsmeriaid yn well, i wneud penderfyniadau gwell a bod yn fwy arloesol. Mae pawb yn wahanol ac mae gan bawb eu safbwynt eu hunain felly rydym yn creu tîm amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Drwy hyn, rydym yn benderfynol o fod yn un o gyflogwyr mwyaf cynhwysol Cymru. Rydym yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynhwysol y gall pawb yng Nghymru fod yn falch ohono.

 

 

Pwy ydyn ni 

Ein cenhadaeth yn Trafnidiaeth Cymru yw trawsnewid trafnidiaeth yng Nghymru a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol, boed hynny ar gyfer rheilffyrdd, bysiau, cerdded neu feicio. Rydyn ni eisiau ysbrydoli cenedl i newid y ffordd maen nhw’n teithio, fel bod pawb yn teithio’n fwy cynaliadwy ac yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd sy’n wynebu pawb.

Rydyn ni’n lle agored a chynhwysol i weithio, lle mae croeso i bawb a lle caiff ein pobl eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydyn ni am greu awyrgylch sy’n galluogi ein pobl i dyfu a llwyddo. Mae hyn yn allweddol i’n galluogi i gyflawni’r addewidion rydyn ni wedi’u gwneud i bobl Cymru er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy sy’n diwallu eu hanghenion nhw.

 

 

Cyfrifoldebau’r swydd

Bydd y Pennaeth Gwasanaethau Cyllid yn arwain Canolfan Ragoriaeth y Gwasanaeth Cyllid, sef tîm mawr o swyddi gweithrediadau cyllid a chyflawni sy'n darparu gwasanaethau i bob rhan o Grŵp TrC. Fel uwch aelod o'r arweinyddiaeth Cyllid Canolog, bydd y Pennaeth Gwasanaethau Cyllid yn goruchwylio gweithrediadau cyllid ac ddarparu a chefnogi gwasanaethau ar lefel uchel.

  • Arwain ac optimeiddio Canolfan Ragoriaeth y Gwasanaeth Cyllid, a'r gweithrediadau gwasanaethau y mae'n eu darparu ar draws Grŵp TrC, drwy sbarduno rhagoriaeth weithredol, dylunio prosesau, safoni ac optimeiddio, a sicrhau cydymffurfiaeth ar draws y dirwedd gweithrediadau cyllid er mwyn darparu gwasanaethau cyllid effeithiol ac effeithlon i grŵp TrC. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda swyddogaethau Trawsnewid Cyllid a phrosesu Arbenigwyr Pynciol i gyflawni mentrau awtomeiddio arloesol a mentrau awtomeiddio eraill.
  • Arwain, datblygu a mentora tîm uchel ei berfformiad yng Nghanolfan Ragoriaeth y Gwasanaeth, drwy feithrin diwylliant o ymddiriedaeth uchel o atebolrwydd, effeithlonrwydd a gwelliant parhaus er mwyn darparu gwasanaethau cyllid effeithiol ac effeithlon i grŵp TrC.
  • Goruchwylio gweithrediadau cyllid trafodion o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys Prynu-i-dalu (P2P), Archeb-i-Arian (O2C), gwasanaethau Arian Parod a Rheoli'r Trysorlys a Refeniw Teithwyr, drwy fod yn brif lwybr uwchgyfeirio a datblygu prosesau er mwyn monitro perfformiad gweithredol.
  • Sefydlu a monitro dangosyddion perfformiad allweddol, cytundebau lefel gwasanaeth, a meincnodau gweithredol drwy weithio gyda chydweithwyr cyllid a'r busnes ehangach i sefydlu egwyddorion sy'n addas ar gyfer busnes TrC

 

 

Am bwy rydyn ni’n chwilio

  • Wedi cymhwyso’n gyfrifydd gyda phrofiad o weithio ar lefel uchel neu mewn swydd debyg mewn sefydliad cymhleth.
  • Profiad amlwg o weithrediadau cyllid (megis cydwasanaethau) gan gynnwys datblygu a rheoli'r gwaith o ddarparu gwasanaethau, er enghraifft, yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol a Chytundebau Lefel Gwasanaeth.
  • Profiad ymarferol amlwg o lywodraethu ariannol, archwilio, neu reolaeth/cydymffurfiaeth fewnol.
  • Profiad o arwain a rheoli tîm mawr o wahanol lefelau o brofiad a chymhwyster, gyda’r gallu i sefydlu a datblygu tîm sy’n bodloni gofynion busnes a chyllidebau sy’n newid.

 

 

Sgiliau Iaith Gymraeg

Byddai’r gallu i sgwrsio ac ysgrifennu yn Gymraeg yn ychwanegiad gwych at eich cais, ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y swydd hon

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cefnogi ac yn hybu gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg, a bydd yn eu hannog i ddatblygu, gwella a chadw eu sgiliau Iaith Gymraeg. Rydym yn rhoi cefnogaeth lawn i staff sydd eisiau gwella eu sgiliau Cymraeg, ac mae datblygiad personol ar gyfer sgiliau Iaith Gymraeg yn cael ei gynnig mewn amrywiaeth o ffyrdd megis dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth a chyrsiau cymunedol lleol

 

 

Y camau nesaf

A yw’r swydd hon yn swnio fel y cyfle rydych chi’n chwilio amdano? Hoffech chi gael gwybod mwy? Gweler y Disgrifiad Swydd sydd ynghlwm am ragor o fanylion.

Trafnidiaeth Cymru – yn arwain ar anableddau. Rydyn ni’n fodlon trafod unrhyw addasiadau rhesymol y bydd eu hangen arnoch yn y broses recriwtio neu fel rhan o’r swydd os byddwch chi’n llwyddiannus.

Bydd yr hysbyseb hon yn cau am hanner nos ar y diwrnod cau a nodir uchod. Rydyn ni’n eich annog i gyflwyno eich cais cyn gynted â phosibl.

* Cofiwch ein bod yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.

 

Sylwch fod yn rhaid i chi ddal yr hawl barhaol i weithio yn y DU. Nid ydym yn gallu darparu nawdd ar hyn o bryd.**