A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Partner Busnes Cyllid / Swyddle
Swydd:
Partner Busnes Cyllid
Lleoliad:
Caernarfon, Hybrid
Cyflog:
£43,149 - £45,529 y flwyddyn
Cyfeirnod:
CGPBC261727b
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol Lefel 4
Math o Swydd:
Parhaol ( 37awr )
Cleient:
Dyddiad Cau:
11-11-2026

 

Partner Busnes Cyllid

£43,149 - £45,529 y flwyddyn | Parhaol

Cyfeirnod personel: 26-33317

Oriau: 37 Awr

Lleoliad(au): Caernarfon

Dyddiad cau: 12/11/2026 10:00

 

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.

 

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

 

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol neu manylion pellach gellir cysylltu â Ffion Madog Evans ar 01286 679133 neu drwy e-bost: ffionmadogevans@gwynedd.llyw.cymru

Ffurflenni cais ar gael gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.  

Pwrpas y swydd

•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.

•Arwain tîm sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cyllid a chyfrifeg i Adran o’r Cyngor yn y modd mwyaf effeithlon ac effeithiol a chyfrannu at alluogi’r Adran i gyflawni ei nod a’i amcanion.

Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer

•Rheoli Uwch Gymhorthydd Cyfrifeg / Cymhorthydd Cyfrifeg / Hyfforddai / Prentis o ddydd i ddydd a chyfrifoldeb cyffredinol am yr offer a ddefnyddir o fewn maes y swydd. ‎

Prif ddyletswyddau

•Ymgymryd â rôl Partner Busnes gan gynnig safbwynt annibynnol proffesiynol ynghyd â arbenigedd, her ac empathi, sy’n angenrheidiol er mwyn cyflawni amcanion busnes yr Adran a’i flaenoriaethau ariannol.

•Disgwylir i’r deilydd arwain y Tîm sydd yn darparu gwasanaeth cefnogol cyfrifeg ariannol a chyfrifeg rheolaethol i Adran o’r Cyngor fel a ganlyn :

•Sicrhau y cyflawnir y targedau a osodir gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol a chymryd camau i gywiro unrhyw lithriad neu ostyngiad mewn ansawdd.

•Gweithredu fel rheolwr llinell i’r staff cyllid sy’n gweithredu ynglŷn â chyllidebau’r Adran berthnasol ac annog y staff i weithio i’w llawn botensial, gan fesur perfformiad yn erbyn targedau.

•Sicrhau fod gofynion y Pennaeth Adran a’r rheolwyr yn cael eu cyflawni yn unol ag unrhyw ofynion â osodir mewn cytundeb lefel gwasanaeth.

•Cyflawni gwaith ar gyllidebau a chyfrifon yr Adran berthnasol, sy’n cydymffurfio gyda safonau proffesiynol priodol, gyda chyfarwyddiadau’r Pennaeth Cyllid Cynorthwyol neu’r Pennaeth Cyllid ac yn unol ag unrhyw bolisïau corfforaethol perthnasol.

•Paratoi cyllidebau a chyfrifon terfynol yr Adran dan sylw, yn unol â chanllawiau a osodir gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol neu’r Pennaeth Cyllid.

•Cyflawni swyddogaethau cyllidebol sy’n arbennig i feysydd yr Adran dan sylw, yn unol â’r gofynion statudol perthnasol, a chymryd cyfrifoldeb personol am gyllidebau cymhleth lle mae angen mewnbwn lefel uchel.

•Monitro cyllidebau refeniw a chyfalaf yr Adran dan sylw gan baratoi adroddiadau fel bo’n berthnasol ar gyfer y Pennaeth Adran a’r rheolwyr, y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol a/neu’r Pennaeth Cyllid.

•Sefydlu ac adolygu systemau casglu gwybodaeth ariannol, gan ymgynghori gyda’r Pennaeth Adran a’r rheolwyr lle bo’r angen er mwyn sicrhau y gellir ymarfer rheolaeth gyllidol gadarn.

•Sicrhau fod ceisiadau grant cywir yn cael eu cyflwyno ar amser i gyrff allanol a bod trefniadau monitro grantiau priodol yn bodoli.

•Cynorthwyo’r Pennaeth Cyllid Cynorthwyol i ystyried unrhyw ddatblygiadau cyfrifyddol ym maes y gwasanaethau dan sylw, a chynorthwyo i ddatblygu trefniadau i gydymffurfio â hwynt drwy gadw’n ymwybodol o ddatblygiadau perthnasol.

•Mynychu cyfarfodydd, pwyllgorau, gweithgorau neu paneli perthnasol yn ôl gofynion y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol a chwarae rhan flaenllaw wrth ddatblygu strategaeth ariannol yr Adran dan sylw.

•Darparu cyngor, gwybodaeth neu adroddiadau ariannol i’r Pennaeth Adran a’r rheolwyr fel bo’r angen.

•Darparu ac adolygu ystadegau y gwasanaethau perthnasol yn unol â gofynion statudol a safonau cyfrifeg cydnabyddedig.

•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.

•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.

•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.

Amgylchiadau arbennig

•Yr angen i weithio tu allan i oriau gwaith arferol yn achlysurol.

 

Nodweddion personol

Hanfodol

Agwedd ymroddgar a chydwybodol tuag at waith.

Y gallu i weithio dan bwysau ac i amserlen benodol.

Y gallu i ysgogi eraill a chydweithio mewn tîm.

Y gallu i ddefnyddio doethineb.

Cyfathrebu materion cymhleth yn glir a chryno.

Yn fodlon cymryd perchnogaeth o faes llafur.

Yn hyblyg gan gydweithio yn effeithiol ag eraill.

Dymunol

Gallu i gymryd arweiniad.

Y gallu i ddefnyddio doethineb.

Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol

Hanfodol

Cyfrifydd cymwysedig, rhannol gymwysedig neu gyfatebol.

Dymunol

Cymhwyster Cyfrifeg cydnabyddedig llawn.

Gradd.

Profiad perthnasol

Hanfodol

Profiad o ddarparu cefnogaeth gyllidol i wasanaethau.

Profiad o fonitro rhaglenni gwariant a rheolaeth gyllidebol.

Profiad o baratoi cyfrifon refeniw o fewn amserlen.

Profiad o ymdrin â systemau ariannol.

Profiad o ddefnyddio technoleg er mwyn darparu tafluniadau ariannol.

Dymunol

Profiad o ddarparu cefnogaeth gyllidol i wasanaeth(au) mewn corff cyhoeddus.

Profiad o oruchwylio staff.

Profiad o adnabod anghenion rheolwyr (i reoli eu cyllidebau) a darparu

gwasanaethau defnyddiol ar eu cyfer.

Sgiliau a gwybodaeth arbenigol

Hanfodol

Gwybodaeth am ddatblygiadau diweddaraf ym maes cyfrifeg.

Sgiliau defnyddiwr systemau cyfrifiadurol.

Sgiliau cyfathrebu effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Gwybodaeth drylwyr o egwyddorion rheolaeth cyllidebau.

Dymunol

Gwybodaeth am ddatblygiadau diweddaraf ym maes cyfrifeg a’u perthnasedd i Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Gwybodaeth am gyfarwyddiadau CIPFA parthed cyfrifo.

Anghenion ieithyddol

Hanfodol

Gwrando a Siarad - Lefel Uwch

Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Darllen a Deall - Lefel Uwch

Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.

Ysgrifennu - Lefel Uwch

Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)