Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Rydym yn chwilio am Beiriannydd i ymuno â ni a gweithio gydag un o brif gwmnïau cynhyrchu Teledu a Ffilm annibynnol y DU. Byddwch yn gweithio mewn tîm o weithwyr proffesiynol hynod dalentog a dynamig ar raglenni teledu byw ac wedi'u recordio ymlaen llaw. Mae'r gallu i gadw eich pwyll dan bwysau yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Mae Tinopolis yn un o brif gwmnïau cynhyrchu Teledu a Ffilm annibynnol y DU, ac mae iddo swyddfeydd a chwmnïau cynhyrchu yng Nghymru, Llundain, Glasgow, Washington DC a Los Angeles. Rydym yn darparu dros 500 o oriau o raglenni teledu byw ac wedi'u recordio ymlaen llaw bob blwyddyn o'n stiwdios yn Llanelli. Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais byddwch yn ymuno â thîm o weithwyr proffesiynol ymroddedig lle mae creadigrwydd, ansawdd, dibynadwyedd a rhagoriaeth dechnegol wrth wraidd popeth a wnawn.
Darperir hyfforddiant i'r ymgeisydd llwyddiannus
Cyfrifoldebau allweddol ac atebolrwydd:
Lleoliad: Canolfan Tinopolis, Park Street, Llanelli, SA15 3YE
Cyflog: Yn ddibynnol ar brofiad
Oriau Gweithio: Cyfartaledd o 40 awr yr wythnos. Oherwydd natur y swydd disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc
Gwyliau: Yn ogystal â'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 25 diwrnod o wyliau dros y flwyddyn pro rata.
Pensiwn: Bydd gennych hawl i ymuno â'r cynllun pensiwn yn amodol ar delerau unrhyw gynllun presennol. Os ydych yn aelod o'r cynllun pensiwn bydd Tinopolis yn cyfrannu 3% o'ch cyflog sylfaenol. Disgwylir i chi gyfrannu 5%
Dylid anfon ceisiadau ar ffurf CV ynghyd â llythyr eglurhaol cyn ddydd Llun 6 Mai 2024 i:
E-bost: swyddi@tinopolis.com neu Swyddi, Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE
Rydym yn gwmni sy’n credu mewn amrywiaeth a chyfle cyfartal, ac rydym bob amser yn croesawu ceisiadau gan unigolion o unrhyw oedran, cefndir ethnig, anabledd, rhywioldeb a chefndir cymdeithasol yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Yn unol â gofynion Deddf Lloches a Mewnfudo 1996, rhaid bod gan bob ymgeisydd hawl i fyw a gweithio yn y DU. Bydd angen tystiolaeth ddogfennol o gymhwysedd gan ymgeiswyr yn ystod y broses recriwtio.
Wrth wneud cais am swydd, bydd disgwyl i chi ddarparu CV yn ystod y broses. Byddwn yn cadw copi o'ch CV ar ffeil am gyfnod o dair blynedd. Pe bai swydd debyg yn dod ar gael yn y cyfnod hwn, gallem ddefnyddio'r wybodaeth i gysylltu â chi. Gallwch ofyn i ni ddileu eich data personol o'n ffeiliau unrhyw bryd. I gael rhagor o wybodaeth am ein Polisi Diogelu Data, gweler http://www.tinopolis.com/privacy-notice/
Severity: Core Warning
Message: Module 'redis' already loaded
Filename: Unknown
Line Number: 0
Backtrace: