Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 434
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Bydd y Rheolwr Ymgysylltu yn gyfrifol am feithrin a bod yn berchen ar gysylltiadau allanol amrywiol sy'n ymwneud â thrafnidiaeth ledled Cymru a siroedd y Gororau, gan fynd ati'n rhagweithiol i geisio mewnbwn i siapio gwaith Trafnidiaeth Cymru (TrC).
Arwain ymgysylltiad allanol ar amrywiol brosiectau, themâu a mentrau TrC, gan weithredu fel y prif gynrychiolydd mewn fforymau sy'n benodol i drafnidiaeth ar yr un pryd â rheoli cysylltiadau â rhanddeiliaid yn rhagweithiol i gasglu mewnbwn a gwella effaith mentrau trafnidiaeth yng Nghymru a'r Gororau.
Datblygu a gweithredu strategaethau ymgysylltu a chynlluniau ymgynghori sy'n cyd-fynd â Strategaeth Ymgysylltu TrC, gan nodi rhanddeiliaid allweddol, gan hysbysu a chynnwys cymunedau, yn ogystal â chasglu adborth drwy nifer o fecanweithiau i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn diwallu anghenion y bobl mae'n eu gwasanaethu.
Gweithio gyda grwpiau rhanddeiliaid a chymunedol i annog a hyrwyddo manteision cadarnhaol trafnidiaeth gyhoeddus drwy fynd ati'n rhagweithiol i feithrin cysylltiadau â rhanddeiliaid amrywiol (grwpiau defnyddwyr, addysg, busnes, twristiaeth, awdurdodau trafnidiaeth, gweithredwyr eraill, awdurdodau lleol) a gweithio gyda nhw i nodi pryderon a rhwystrau i drafnidiaeth gyhoeddus nawr ac yn y tymor hir.
Gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol TrC i roi gwybodaeth i randdeiliaid ac i'r gymuned i gefnogi'r broses o wneud penderfyniadau a chynnig her gadarnhaol i sicrhau bod newid yn adlewyrchu anghenion rhanddeiliaid a'r gymuned.
Cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni Seilwaith Cynghori TrC drwy nodi rhanddeiliaid i weithredu fel aelodau, dylunio ac arwain sesiynau fforwm a chyflawni ceisiadau a chamau gweithredu a godwyd.
Nodi a chyflwyno/mynd i fforymau, digwyddiadau a gweithdai gyda'r cyhoedd, cymunedau a rhanddeiliaid i gyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf am waith TrC a chael mewnbwn ac adborth ar brosiectau, pynciau a themâu penodol.
Ymgysylltu'n effeithiol â'r holl grwpiau rhanddeiliaid drwy nodi a darparu amrywiaeth o drafodaethau ar newid trafnidiaeth, gan sicrhau bod rhanddeiliaid a chymunedau TrC yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ac yn teimlo eu bod yn rhan o fentrau Trafnidiaeth, heb unrhyw beth annisgwyl.
Tracio ymholiadau, ymrwymiadau, pryderon a cheisiadau rhanddeiliaid a gweithio gyda chydweithwyr mewnol i ddod â newid cadarnhaol i ben a'i gyflawni, lle bynnag y bo modd, yn brydlon er mwyn bodloni dangosyddion perfformiad allweddol.
Cydweithio ochr yn ochr â'r tîm Cyfathrebu ac Ymgysylltu ehangach drwy gynnig arweiniad a chefnogaeth i brosiectau yn ôl yr angen, er mwyn helpu i hwyluso twf cynlluniau cyfathrebu TrC.
Nodi risgiau i'w cynnwys yn y gofrestr risg, tynnu sylw rhanbarthau penodol at broblemau posibl, gan uwchgyfeirio heriau rhanddeiliaid wrth iddynt ddod i'r amlwg er mwyn sicrhau bod y strategaethau lliniaru risg priodol yn cael eu rhoi ar waith yn brydlon i leihau niwed i enw da.
Cymhwyster gradd mewn maes perthnasol fel Cyfathrebu neu gysylltiadau cyhoeddus, neu brofiad cyfatebol.
Profiad amlwg o reoli mentrau ymgysylltu â rhanddeiliaid neu'r gymuned.
Profiad o ymgysylltu a rheoli rhanddeiliaid lluosog ac amrywiol yn effeithiol.
Profiad o sicrhau boddhad rhanddeiliaid, nodi cyfleoedd i ddatrys problemau a chanfod atebion cadarnhaol i randdeiliaid.
Profiad o fynd ati'n effeithiol i arwain y gwaith o ddatblygu, cyflenwi ac adolygu strategaethau ymgysylltu.
Profiad o gynllunio ymlaen llaw a chreu a datblygu cynlluniau ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac ymateb yn effeithiol i faterion ymatebol.
Er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddent yn ychwanegiad gwych at eich cais.
Mae TrC yn cefnogi unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg neu wella ei sgiliau. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd dysgu ar-lein, cyrsiau ystafell ddosbarth, a chyllid i fynd ar gyrsiau yn y gymuned leol.
Rydyn ni'n newid y ffordd y mae'r diwydiant trafnidiaeth yn edrych. Drwy ddathlu a chroesawu gwahaniaethau, rydyn ni'n datblygu gweithlu sy'n cynrychioli Cymru. Mae angen i ni gael pobl ddawnus o bob cefndir a diwylliant i ddod i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau. Mae timau amrywiol yn gwneud penderfyniadau gwell ac yn sbarduno arloesedd. Ymunwch â ni i drawsnewid y ffordd y mae Cymru'n teithio.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn newid y ffordd y mae Cymru'n teithio, gan sicrhau mai trafnidiaeth gynaliadwy yw'r dewis cyntaf. Rydyn ni'n datblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig aml-ddull o'r enw Rhwydwaith T, i'w gwneud hi'n haws i bobl deithio ar y trên, ar y bws, ar droed, ar olwynion ac ar feic.
Edrychwch ar y Disgrifiad Swydd yn yr atodiad i gael rhagor o fanylion ac i gael gwybod sut mae gwneud cais. Os ydych chi'n awyddus i gael gwybod mwy am ein gwaith yng Nghymru, darllenwch yr Adroddiad Blynyddol.
Rydyn ni'n Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rhowch wybod i ni am unrhyw addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnoch yn ystod y broses recriwtio neu fel rhan o'r swydd os byddwch chi'n llwyddiannus.
Bydd yr hysbyseb hon yn cau am 23:59 ar y dyddiad cau uchod. Fodd bynnag, rydyn ni'n cadw'r hawl i wrthod derbyn mwy o geisiadau ar gyfer y swydd wag os bydd digon wedi dod i law. Felly, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.