A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Cwmni Da | Cyfarwyddwr Gweithredol / Swyddle
Position:
Cyfarwyddwr Gweithredol
Location:
Caernarfon
Salary:
I’w drafod, yn unol â phrofiad ac arbenigedd.
Ref:
CwmniDaCG
Job Type:
Permanent
Client:
Cwmni Da
Closing Date:
29-08-2025

Rydym ni’n chwilio am Gyfarwyddwr Gweithredol llawn egni ac uniondeb.

Mae hon yn swydd allweddol yn nhîm arwain Cwmni Da. Bydd yn helpu i gadw trefn, symleiddio prosesau, cefnogi’r tîm, a sicrhau bod y gwaith creadigol yn gallu disgleirio.

Mae hwn yn gyfle i weithio mewn sefydliad sy’n llawn sbardun ac ysbryd tîm, agored, cydweithredol ac yn rhoi’r Gymraeg wrth galon bob dim.

Bydd y rôl yn cynnig arweinyddiaeth weithredol i’r cwmni, gan gynnwys:

  • Rheoli gweithdrefnau, staff a phrosesau busnes o ddydd i ddydd.
  • Sicrhau bod ein gweithdrefnau yn gynaliadwy, effeithiol ac yn gyson â gwerthoedd Cwmni Da.
  • Bod yn gyswllt rhwng adrannau ac arwain ar brosiectau masnachol.
  • Gweithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr a’r tîm ehangach i ddatblygu’r sefydliad.
  • Mae’r gallu i weithio’n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.
  • Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y disgrifiad swydd lawn a manyleb y person, lawr lwythwch a darllenwch ein pecyn recriwtio.

Sut i Ymgeisio

I wneud cais ac i lawr lwytho'r pecyn recriwtio ewch i: https://cwmnida.cymru/ymunwch-a-ni 

Dyddiad cau: 29/08/2025

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â: Leah Watkins (Dolen HR) – leah@dolen.co.uk neu Bethan Griffiths (Prif Weithredwr) – bethan.griffiths@cwmnida.cymru

Bydd cyfweliadau yn cael i’w cynnal yn ystod mis Medi