A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 325

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Cwmni Da | Cyfarwyddwr Cynnwys / Swyddle
Position:
Cyfarwyddwr Cynnwys
Location:
Caernarfon
Salary:
I’w drafod, yn unol â phrofiad ac arbenigedd
Ref:
CwmniDaCC
Job Type:
Permanent
Client:
Cwmni Da
Closing Date:
29-08-2025

Parod i arwain y gâd ym myd y cyfryngau Cymraeg?

Mae Cwmni Da yn chwilio am arweinydd deinamig â chanddynt weledigaeth gref a chyffrous.

Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Cynnwys i ymuno â’n tîm yng Nghaernarfon, ar lannau’r Fenai. Mae hon yn gyfle unigryw i yrru ac i lunio dyfodol un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf llwyddiannus Cymru.

Bydd y Cyfarwyddwr Cynnwys yn chwarae rhan allweddol wrth lunio a chyflwyno gweledigaeth greadigol y cwmni, gan:

  • Arwain y strategaeth golygyddol a’r gwaith datblygu cynnwys.
  • Cynnal a chryfhau cysylltiadau gyda darlledwyr presennol ac adeiladu partneriaethau newydd.
  • Hyrwyddo tîm cynhyrchu uchelgeisiol, creadigol a chydwei thredol.
  • Bod yn llais ac yn bresenoldeb allanol i’r cwmni mewn digwyddiadau, comisiynau ac wrth ‘pitchio’ cynnwys.

Mae’r gallu i weithio’n hyderus trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i’r swydd hon.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y disgrifiad swydd lawn a manyleb y person, lawr lwythwch a darllenwch ein pecyn recriwtio.

Sut i Ymgeisio

I wneud cais ac i lawr lwytho'r pecyn recriwtio ewch i: https://cwmnida.cymru/ymunwch-a-ni/

Dyddiad cau: 29/08/2025

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â: Leah Watkins (Dolen HR) – leah@dolen.co.uk neu Bethan Griffiths (Prif Weithredwr) – bethan.griffiths@cwmnida.cymru