Severity: Notice
Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE
Filename: controllers/Vacancies.php
Line Number: 325
Backtrace:
File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 325
Function: _error_handler
File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once
Ydych chi'n angerddol am gyfathrebu ac yn edrych am eich her nesaf?
Rydym yn chwilio am unigolyn deinamig i ymuno â'n Hadran Cyfathrebiadau Corfforaethol.
Mae gwaith y tîm cyfathrebu o fewn gwasanaeth brys rheng flaen yn amrywiol ac yn werth chweil - gan ymgorffori ystod o ddyletswyddau a chyfrifoldebau sy'n chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu'r cymunedau a wasanaethwn.
Fel Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth ddatblygu a hyrwyddo ein strategaeth cyfathrebu corfforaethol.
Bydd eich ymagwedd ragweithiol yn sicrhau bod ein tîm cyfathrebu yn cyflawni'n gyson i'r safonau uchaf.
Gyda'r gallu i greu cynnwys ysbrydoledig a chymhellol gyda'r nod o ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol, byddwch ar flaen y gad o ran cyfathrebu amcanion, gwerthoedd craidd a chyflawniadau'r gwasanaeth tân ac achub.
Sylwch fod y swydd hon yn amodol ar Fetio Personél nad yw’n Heddlu (NPPV). I gael rhagor o fanylion am y rôl, cysylltwch â Tracey Williams Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol Tracey.Williams@tangogleddcymru.llyw.cymru.
I wneud cais, cwblhewch a chyflwynwch eich pecyn cais drwy e-bost i: recruitment@northwalesfire.gov.wales
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw hanner dydd, 8 Mai 2024
Cedwir yn gaeth at y dyddiad cau ac ni fydd unrhyw eithriadau.
Severity: Core Warning
Message: Module 'redis' already loaded
Filename: Unknown
Line Number: 0
Backtrace: