A PHP Error was encountered

Severity: Notice

Message: Undefined index: HTTP_ACCEPT_LANGUAGE

Filename: controllers/Vacancies.php

Line Number: 434

Backtrace:

File: /home/swyddle/public_html/frontend/controllers/Vacancies.php
Line: 434
Function: _error_handler

File: /home/swyddle/public_html/index.php
Line: 315
Function: require_once

Swyddle | Swyddog Datblygu Cymunedol Blaenau Gwent / Swyddle
Swydd:
Swyddog Datblygu Cymunedol Blaenau Gwent
Lleoliad:
Blaenau Gwent, Pontypool
Cyflog:
£25,000
Cyfeirnod:
261119bgtm
Sgiliau Cymraeg:
Hanfodol (Lefel 3 / B2)
Math o Swydd:
Parhaol
Cleient:
Dyddiad Cau:
30-11-2026

 

Teitl: Swyddog Datblygu Cymunedol

Enw'r Cyflogwr: Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy

Cyflog: £25,000 + Pensiwn

Dyddiad Cau: 30/10/2026

Amser Cau: 17:00:00

Enw Cyswllt: Sioned Davies

Ffôn: 01495755861

E-bost: sioned@menterbgtm.cymru

Gwefan: https://www.menterbgtm.cymru/

Lleoliad: Ystafell/Room L4, Alder Suite, Tŷ Mamhilad House C, Ystâd Mamhilad Park Estate, Pont-y-pŵl, Torfaen, Cymru, NP4 0HZ

 

Disgrifiad:

Swyddog Datblygu Cymunedol

Ydych chi’n hoffi trefnu gweithgareddau ac yn caru’r Gymraeg?

Mae Sefydliad Corfforedig Elusennol Menter Iaith BGTM (rhif elusennol 1181104) yn chwilio am berson arbennig i adeiladu ar y gwaith o hyrwyddo a datblygu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn lleol.

Cefndir

Nod y Mentrau Iaith ydy hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru. Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991,ac erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yn gwasanaethu pob rhan o Gymru. Wedi tyfu o awydd a dyheadau pobl leol y mae’r Mentrau Iaith, er mwyn hyrwyddo defnydd y Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yn eu cymunedau. Mae’r Mentrau Iaith yn un o bartneriaid allweddol Llywodraeth Cymru ac yn gweithredu ar lawr gwlad i wireddu amcanion Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg – sydd yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Mae pob Menter Iaith yn gweithredu mewn ffordd unigryw yn ddibynnol ar anghenion lleol.

Disgrifiad Swydd/Prif Gyfrifoldebau:-

 

  • Darparu cyfleoedd i drigolion y sir gael mynediad i ddigwyddiadau ieithyddol, diwylliannol a chelfyddydol.
  • Grymuso grymuso unigolion, grwpiau a chymunedau i ddefnyddio’r iaith
  • Asesu anghenion cymunedau Blaenau Gwent a Thorfaen o safbwynt gweithgareddau cyfrwng Cymraeg drwy broses o ymgynghori eang.
  • Meithrin a datblygu cysylltiadau agos gyda grwpiau cymunedol, mudiadau gwirfoddol a phartneriaid eraill (e.e Cymraeg i Oedolion Gwent, Mudiad Meithrin) gan gydlynu a threfnu gweithgareddau blaengar a deniadol a’u gwerthuso’n gyson.
  • Gweithio gyda phlant a phobl o bob oedran.
  • Datblygu prosiectau penodol a flaenoriaethwyd yng nghais a thargedau’r Llywodraeth.
  • Cyfrannu at brosesau gwerthuso a monitro'r Fenter.
  • Paratoi ceisiadau am nawdd ar adegau.

     


Manyleb person
 

  • Sgiliau Iaith Gymraeg da ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hanfodol
  • Dealltwriaeth o ddiwylliant ac anghenion ieithyddol Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy
  • Profiad o weithio gyda phlant ac oedolion a threfnu amryw o weithgareddau ar eu cyfer
  • Y gallu i gyfathrebu’n glir yn Gymraeg a Saesneg ar bob lefel a gweithio gydag ystod eang o oedrannau
  • Hyderus pan yn weithio’n annibynnol ac yn dangos blaengaredd
  • Profiad o greu ac annog syniadau newydd (arloesol)
  • Sgiliau safonol o ddefnyddio TG / cyfryngau cymdeithasol
  • DBS cyfredol
  • Trwydded yrru gyfredol a char


Telerau’r Swydd

Cyflog: £25,000

Telir cyfraniad pensiwn cyflogwr (8%) yn ychwanegol

Costau Teithio

Telir costau teithio yn ôl graddfa CThEM

Oriau Gwaith

37.5 awr yr wythnos. Yn ddelfrydol bydd hon yn swydd amser llawn ond gellir ystyried ymgeiswyr sydd am weithio’n rhan amser.

Gwyliau

28 diwrnod y flwyddyn (+2 ddydd ychwanegol ar gyfer y Nadolig)

Hyd y Cytundeb

Parhaol

Bydd angen cwblhau cyfnod prawf o dri mis yn llwyddiannus.

Strwythur Rheoli

Byddwch yn gweithio o dan gyfarwyddyd Prif Swyddog ac yn atebol i fwrdd Ymddiriedolwyr y Fenter.

Lleoliad swyddfa’r Fenter

Ystad Parc Mamhilad Park

Pontypŵl

 

Dyddiad Cau:  30 Hydref 2026

Cyswllt: Sioned Davies

I wneud cais am y swydd, defnyddiwch y botwm “Lawrlwytho dogfennau” i lawrlwytho’r pecyn cais. Dychwelwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau drwy e-bost i sioned@menterbgtm.cymru erbyn 5pm, dydd Gwener, 30 Hydref 2026.

Defnyddiwch y botwm “Ceisio” i fynd i wefan Menter BGTM am fanylion cyswllt a rhagor o wybodaeth am waith y Fenter.